Rheolau’r seiat
Postiwch manylion eich gigs yma, ond cofiwch cynnwys y drindod sanctaidd yn y teitl sef - Dyddiad : Artistiaid : Lleoliad - e.e. 05.01.07 : Fflur Dafydd : Ship, Porthmadog. Rhowch gymaint o fanylion pellach ag sy'n bosib yn y neges ei hunan, gan gynnwys amser y gig, lleoliad, pris y tocyn, yr holl artistiaid ac ati. Er mwyn cael y gig i ymddangos yn y calendr hefyd, cofiwch ddewis y tab 'Digwyddiad Calendr' ar waelod y dudalen pan yn llunio'r neges, a mewnddodwch y dyddiad perthnasol.
Mae un Nodwedd ychwanegol wedi'i ychwanegu, diolch eto i Duw. Radio yw'r dolen diweddaraf i ymddangos islaw logo maes-e. Trwy bwyso ar y ddolen yma, bydd modd i chi wrando ar Radio Cymru neu Radio Curiad yn hawdd, ac yn fyw arlein.
Cofiwch bod rhaid i chi fewngofnodi cyn gallu gweld nifer o'r nodweddion newydd.
Newydd fod ar y dudalen sgwrsio , ond neb yno. Mi driais i agor ffenestri eraill er mwyn cael clywed y ping ....ond yn ofer. Sut mae cael sgwrs felly ar y dudalen sgwrsio?
Mae cyn lleied o bobl yn mewngofnodi ar yr un pryd yn bresennol, mae'n anodd i ddal pobl. Felly dyfal donc... am nawr. Efalle bod syniad gan Hedd o ran trefnu amseroedd penodol bod pobl yn mynd i fod arlein???
Diolch .... Oes modd gwybod os oes 'na rhywun yn y stafell sgwrsio , ac fe fuasa hynny'n rhoi dewis i chi fynd yno a'i peidio ? Ddim isho bod yn niwsans chwaith....
Syniad ffantastig Mali - stim syniad gen i ble i rhoi hwnna - mae cwynion wedi codi parthed 'clyter' eisoes - sy digon teg. Beth am gosod seren (*) ar ol sgwrsio yn y pennyn pan fydd rhywun yn myned i mewn i'r peth, e.e.
FFORWM SGWRS NEWYDDION BLOGIAU GEMAU RADIO : neb yn sgwrsio
FFORWM SGWRS* NEWYDDION BLOGIAU GEMAU RADIO : rhywun wedi myned i sgwrsio
Neu ydy hyn yn rhy subtle?
//GOLYGU 16:39 11/03/09 Dwi'n meddwl fy mod wedi'i ddatrys - haws nag oeddwn yn meddwl. Dyle fod seren yn ymddangos drws nesaf i SGWRSIO os ydy rhywun wedi myned iddo a dim os nac oes unrhyw un yna. Dwi ddim yn gwybod os gall sefyllfa godi lle bo'r seren yn wag - bydd angen ei brofi i ffeindio mas - os allech roi gwybod i mi os ydy'r seren ymlaen a bod neb yna (hynny yw bod dim enw o gwbl yn y golofn dde heb law eich enw chi).
//GOLYGU 20:15 11/03/09 Wedi newid y seren i nifer y pobl sydd tu fewn SGWRSIO (cais Hedd). Ychydig mwy i weithio ar fan hyn. Nid yw'r nifer yn diweddaru pan na fydd aelod wedi allgofnodi gan law. Angen i mi osod 'cron job' er mwyn tacluso'r gweddillion.