Cymedrolwr: Norman
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Rhys Llwyd wedi gwneud map gret o ardal y steddfod gan ddefnyddio Google maps, ar gael yma - http://cymdeithas.org/2009/08/01/manyli ... 9.html#map
CORRACH a ddywedodd:Hedd Gwynfor a ddywedodd:Rhys Llwyd wedi gwneud map gret o ardal y steddfod gan ddefnyddio Google maps, ar gael yma - http://cymdeithas.org/2009/08/01/manyli ... 9.html#map
gwych ydi'r map.
a fydd unrhyw fath o lwybr cerdded o Faes Huw i'r dre/maes Eisteddfod? Mae'r ffordd mynd i fod braidd yn brysur (a pheryg) i gerdded arni . . .
cymdeithas.org a ddywedodd:Dafydd Iwan yn dod yn ôl at ei Wreiddiau
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi trefnu wythnos lawn o weithgarwch gyda'r nos ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol y Bala. Ond fe fydd y tair noson gyntaf (gynhelir ym Maes Tafod wrth ymyl y Ganolfan Hamdden), tra'n apelio at bawb yn sicr o apelio yn arbennig at yr Eisteddfodwyr hynny sy'n cofio'r Blew a 'Maes B' yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala 1967.
Fe gafodd Dafydd Iwan ganu yn y Pafiliwn mewn cyngerdd gyda'r nos yn yr Eisteddfod honno ac roedd hynny'n chwyldroadol ar y pryd a 'Chân yr Ysgol' yn dal yn gymharol newydd Fe fydd yn bleser cael croesawu Dafydd yn ôl i Eisteddfod y Bala eleni. Ef fydd y prif atyniad ar nos Sadwrn cyntaf yr Ŵyl, ac mae hynny yn gwbwl briodol gan fod gwreiddiau Dafydd yn Llanuwchllyn.
Ddeugain mlynedd union yn ôl yn Eisteddfod Genedlaethol y Fflint 1969 ac yntau yn Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y pryd, roedd Dafydd Iwan yng nghanol un o stormydd gwleidyddol mwyaf ei fywyd gan ei fod ar flaen y gad yn yr ymgyrch peintio arwyddion ac yn arwain yr ymgyrch yn erbyn yr Arwisgo. Mae rhywun yn gobeithio y caiff Eisteddfod dawelach yn y Bala eleni. Yn ei gefnogi ar y noson mae Lowri Evans a Candelas a'r compare fydd Dilwyn Morgan.
Meic Stevens, hen ffefryn arall, fydd y prif atyniad nos Sul. Pan oedd o yn canu efo'r Bara Menyn y daeth y gân 'Mynd i'r Bala mewn Cwch Banana' yn enwog am y tro cyntaf. Bydd Heather Jones, un arall o driawd y Bara Menyn yn canu ar y noson hefyd. Cymysgedd o gerddoriaeth werin fodern a churiadau electronig ceir gan y band arall fydd yn chwarae ar y nos Sul, sef Brigyn.
O'i gymharu a'r ddau uchod, nid yw Geraint Løvgreen ond glaslanc, ond mae o o bosib wedi canu yn amlach ar lwyfannau'r Gymdeithas yn yr Eisteddfod Genedlaethol nac odid unrhyw artist arall a mawr fydd croeso Pabell Tafod iddo ar y Lun. Yn cefnogi Geraint bydd Mattoidz, Gwyneth Glyn, Gwilym Morus a Pala, band ifanc o ardal y Bala.
Ar ôl gigio'n galed am dair noson efallai na fydd gan y pyntars hŷn egni ar ôl am weddill yr wythnos ac y byddan nhw yn ildio eu lle i genhedlaeth iau. Ond does ond gobeithio na fydd ganddyn nhw ychydig o wynt yn weddill i ddod i Ffair y Bala ar y dydd Sadwrn olaf pan fydd deuddeg a mwy o artistiaid yn canu o ddeuddeg o'r gloch y prynhawn hyd at un o'r gloch y bore. Rhywsut mae rhywun yn synhwyro na fyddwn ni am weld Eisteddfod Genedlaethol y Bala yn dod i ben!
Leusa a ddywedodd:Mae na lwybr troed diogel i'r dref o Lanfor.
Dwi ar ddallt na fydd 'na showers yn 'Maes Huw'. Dyna i chi gachu hwch. Ond y ffordd ma'r tywydd yn dal ati rwan, cwbwl fydd angen neud 'di sefyll yn yr awyr agored efo shampw ar eich pen a fydd popeth yn iawn.
Map neu beidio, dwi dal methu gweithio allan lle ar wyneb y ddaear fydd gigs cymdeithas...
Snelson a ddywedodd:Ar y cau drws nesa' i'r ganolfan hamdden. Dros y ffordd i lle ti'n troi am y clwb golff.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai