Gig Taliesin yn 50 - Richard James / Y Niwl

Postiwch eich gigs yma! Darllenwch y cyfarwyddiadau!

Cymedrolwr: Norman

Rheolau’r seiat
Postiwch manylion eich gigs yma, ond cofiwch cynnwys y drindod sanctaidd yn y teitl sef - Dyddiad : Artistiaid : Lleoliad - e.e. 05.01.07 : Fflur Dafydd : Ship, Porthmadog. Rhowch gymaint o fanylion pellach ag sy'n bosib yn y neges ei hunan, gan gynnwys amser y gig, lleoliad, pris y tocyn, yr holl artistiaid ac ati. Er mwyn cael y gig i ymddangos yn y calendr hefyd, cofiwch ddewis y tab 'Digwyddiad Calendr' ar waelod y dudalen pan yn llunio'r neges, a mewnddodwch y dyddiad perthnasol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Gig Taliesin yn 50 - Richard James / Y Niwl

Postiogan CasiaLisabeth » Llun 28 Tach 2011 10:40 am

07/12/2011 : Richard James / Y Niwl : Tafarn y Bunkhouse, Heol Santes Fair, Caerdydd. Noson o gerddi, crimpio a cherddoriaeth! Bydd llond gwlad o feirdd - Anni Llyn, Gwilym Dwyfor, Llyr Gwyn Lewis, Osian Rhys Jones, Aneirin Karadog, Catrin Dafydd a Rhys Iorwerth - yn darllen eu gwaith, cyn ein diddanu gyda crimp i Taliesin, ac yna set ddwyieithog gan Richard James a set gan Y Niwl i gloi.
Bydd cacen ben-blwydd biws i bawb sy'n myned :D Pris tocyn: £8.50 - £10.00 ar y drws - sy'n cynnwys tanysgrifiad blwyddyn i Taliesin - bargen!
Am fwy o wybodaeth ac i archebu'ch tocyn ffoniwch 029 2047 2266 neu ebostiwch Casia@llenyddiaethcymru.org
CasiaLisabeth
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 1
Ymunwyd: Llun 28 Tach 2011 10:34 am

Dychwelyd i Gigs

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Google [Bot] a 12 gwestai