(rhodd i Eisteddfod y Fro o £2/£3 os yn bosib os gwelwch yn dda, blwch casglu wrth y drws)
Fe fydd digwyddiad newydd Shyffl i godi arian ac ymwybyddiaeth at Bwyllgor Apel Eisteddfod, Penarth
nos Iau yma wrth i Gary Slaymaker, Daf Wyn a Iestyn Jones ymuno yn yr hwyl ar S4C o'r Windsor.
"Pen-Sion-Arth" yw teitl y noson, a 'Pension-eirth' neu beidio, bydd yna groeso cynnes
i chi yn y Windsor Arms yng nghwmni Wedi 7 o 6.30yh ymlaen am noson o gomedi a chanu.
Mae Wedi 7 wrth gwrs yn frwd iawn i gael crowd o Gymry Cymraeg y Fro draw, felly dewch yn llu i ddangos
eich cefnogaeth i'r achos! (Yn arbennig bod y rhaglen yma yn cael ei atal cyn bo hir yn yr wythnosau nesaf...)
Os am ganu yn y Cor arbennig i'r Noson ar y teledu, cliciwch ar http://dafwyn.bandcamp.com/
i ddysgu'r don a'r geiriau er mwyn cefnogi'r achos!.. Ni angen "mimers" hefyd cofiwch!
Ac os nad ydych chi ar gael, beth am greu fideo o'ch hunain yn canu'r gytgan er mwyn
i ni gael fideo bach i fynd gyda'r gan?...bydd gobaith i ni werthu a marchnata'r gan
ar lein er mwyn codi arian pellach at yr Eisteddfod wedyn! (gweler y manylion cyswllt isod)
Fe fydd Gary Slaymaker yn ailddangos wedi i Wedi 7 dod i ben am set fach arall,
felly ymlaciwch tan Wedi 10 gyda ni yn y Windsor, Windsor Rd, Penarth:
ar y briffordd mewn i'r dre/ 500 llath dros y bont o orsaf drenau Dingle Rd.
Hwyl yr Wyl!
am fwy o wybodaeth : Wyn ar 07972 238 916
ebost : shyffl@dailingual.co.uk
Diolch
* er gwybodaeth, mae trafodion wedi dechrau gyda'r Windsor, a Ty Cerdd, am sut byddai parhau i gynnal nosweithiau
diwylliannol i'r Cymry Cymraeg wedi'r Eisteddfod. Byddai'r posiblrwydd gyda ni o godi arian i achosion da megis
ysgolion a Chylchoedd lleol pe bai yna digon o ddiddordeb yn ystod y misoedd nesaf.*