Ar gyfer unrhywun sy'n mynd i weld y rygbi ar Ddydd Sadwrn: be am gael parti go-iawn efo rhai o artistiaid alternatif gora Cymru wedyn? Cyfle prin i weld stwff Cymraeg ym mhrifddinas ein hannwyl deyrnas gwbwl unedig.
The Wilmington Arms, Islington, Llundain
PLANT DUW
ALEX DINGLEY
THEM LOVELY BOYS
Set DJ gan THE JAM JAR
8 y.h.
£5 ar y drws, ac mae'r 50 cwsmer cyntaf yn cael copi o CD 'Bam Thwok - Alt.Pop Songs To Improve Your Life, Vol.1', sy'n cynnwys trac gan Plant Duw, AM DDIM: http://bit.ly/skPY8a
Bydd yr elw yn mynd at Cancer Research. Hefyd, fydd 'na raffl, a'r elw o hwnnw'n mynd at yr un achos. Y gwobrwyon fydd CDs, crysau, a phob math o stwff gan artistiaid y noson.