Mae di bod yn amser hîr iawn ers i fi gyfrannu yma.
Ond dyma fi nôl.
Ar nôs Iau Gorffennaf 19 bydd cyngerdd hanesyddol yn Galeri Caernarfon.
Mae'n gwerthu yn gyflym iawn.
Cyngerdd o'r enw Mamiaith am adfywio ieithoedd cynefin Awstralia a chryfhau y Gymraeg.
Caneuon newydd sbon wedi eu sgwennu ar y cyd rhwng 9 Bach a Black Arm Band.
Rhagor o wybodaeth yma...
http://www.galericaernarfon.com/cy/thea ... 7/mamiaith
a promo byr ynghyd a chofnod o rhai o'r caneuon a berfformwyd mewn ffurf amrwd yn Galeri pan ddaeth Lou a Shelley draw i Gaernarfon i weithio gyda Lisa a Martin.
https://vimeo.com/album/1874001
Ma' hon yn un o gyngherddau'r ganrif.