Pontio/Gardd Goll yn cyflwyno
NOSON ARBENNING EFO DAU O EICONAU CERDDORIAETH CYMRU
Mae Steve Eaves wedi bod yn diddanu cynulleidfaoedd gyda'i eiriau barddonol a'i gerddoriaeth werin, roc a blŵs ers mwy na 40 mlynedd. Mae Steve yn un o gerddorion mwya' llwyddiannus Cymru sydd wedi cyhoeddi naw albwm a chasgliad o'i holl ganeuon rhwn 1984-1999.
Mae Siân James yn gerddor llwyddiannus ac amlwg arall sydd wedi cyhoeddi wyth albwm a pherfformio ei cherddoriaeth werin led-led Prydain a thu hwnt.