Iawn gyfeillion? Dim ond nodyn fach i'ch atgoffa chi bod Llanast Llanrwst yn dechrau ar y penwythnos. Ar dydd Sadwrn y 1af o Ragfyr, mae gennym ni llond tin mul o fandiau ac artistiaid i gysuro'ch calona' ar noson oer yn y dref farchnad hanesyddol. Dyma cip olwg o'r hyn sydd i ddod...
1.30yp - Caffi Contessa AM DDIM
- Sesiwn Hanes Cerddoriaeth efo Toni Schiavone a Rhys Mwyn
- Arddangosfa Cerddoriaeth y Ddyffryn
- Set acwstig gan y band werin o Gaernarfon, PLU
6yh - Y Llew Coch AM DDIM
- Yr Oen / Team Panda
7yh - Pen Y Bryn AM DDIM
Y Niwl / Sen Segur
8.30yh - Y GIG FAWR - Clwb Y Legion £10 (tocynnau ar gael o swyddfa Menter Iaith Conwy neu Bys a Bawd - dim llawer ar ol!!)
H a'r Band (Edward H) / Cowbois Rhos Botwnnog / Y Cledrau
Ac os nad ydy'r gwledd o artistiaid yna'n ddigon, ar nos Wener y 30 o Dachwedd, mi fydd Sioe Cnoi Draenogog yn ymweld a Llanrwst am 8yh yn Westy'r Eryrod.
Dewch am sbec!!