Pontio, mewn cydweithrediad â Gŵyl Gardd Goll, yn cyflwyno:
Ar Y Rêls - Cowbois Rhos Botwnnog wedi eu cefnogi gan Creision Hud a Swnami.
Sadwrn 29 Rhagfyr, 8pm
Clwb Rheilffordd Bangor, Ffordd Euston, Bangor, LL57 2YP
£10 / £8 gostyngiad
UN O FANDIAU MWYA' POBLOGAIDD CYMRU YN CAEL EU CEFNOGI GAN CREISION HUD A SWNAMI
Ers ei ffurfio gan y brodyr Iwan, Aled a Dafydd Hughes yn 2006, mae Cowbois Rhos Botwnnog wedi cyhoeddi tri albwm ac wedi recordio nifer os esiynau gwych i BBC Radio Cymru. Mae'r bandiau talentog Creision Hud o Gaernarfon a Swnami o Ddolgellau hefyd wedi cael misoedd prysur o gyfansoddi a gigio. Felly, mentrwch allan o'r tŷ rhwng 'Dolig a'r Flwyddyn Newydd i fwynhau un o gigs ola'r flwyddyn yng nghwmni rhai o fandiau gorau Gwynedd.
Tocynnau ar gael drwy:
Ffonio 01248 38 28 28
Ar-Lein http://www.pontio.co.uk
Ar werth yn Palas Print Pendref, Bangor