Sadwrn 4 Mai : Y Bandana : Clwb Rheilffordd Bangor

Postiwch eich gigs yma! Darllenwch y cyfarwyddiadau!

Cymedrolwr: Norman

Rheolau’r seiat
Postiwch manylion eich gigs yma, ond cofiwch cynnwys y drindod sanctaidd yn y teitl sef - Dyddiad : Artistiaid : Lleoliad - e.e. 05.01.07 : Fflur Dafydd : Ship, Porthmadog. Rhowch gymaint o fanylion pellach ag sy'n bosib yn y neges ei hunan, gan gynnwys amser y gig, lleoliad, pris y tocyn, yr holl artistiaid ac ati. Er mwyn cael y gig i ymddangos yn y calendr hefyd, cofiwch ddewis y tab 'Digwyddiad Calendr' ar waelod y dudalen pan yn llunio'r neges, a mewnddodwch y dyddiad perthnasol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Sadwrn 4 Mai : Y Bandana : Clwb Rheilffordd Bangor

Postiogan PontioBangor » Mer 17 Ebr 2013 9:41 am

Sadwrn 4 Mai, 8pm
Clwb y Rheilffordd Bangor, Ffordd Euston
£10/£8 gostyngiadau

Ffôn: 01248 382828
Arlein: http://www.pontio.co.uk
Ymwelwch â: Siop Pontio

Pontio, mewn cydweithrediad â Gŵyl Gardd Goll yn cyflwyno:
Ar y Rêls - Y BANDANA + Tom ap Dan + Yr Eira

BAND INDI-ROC Â SAWL GWOBR SY'N ENWOG AM EU GEIRIAU DONIOL AC ALAWON BACHOG

Yn dod o Gaernarfon ac yn adnabyddus am ei geiriau doniol, cafodd y band egnïol, cyffrous yma eu hysbrydoli gan Led Zeppelin, Queen a Jimi Hendrix Experience.
Mae’r band, sef Gwilym Rhys (prif leisydd), Tomos Owens (allweddfwrdd), Sion Owens (gitâr bâs) a Robin Jones (drymiau), wedi teithio hyd a lled Cymru. Ennillon nhw’r sengl orau ar gyfer Dal dy Drwyn / Cân y Tân, a’r band byw gorau gan gylchgrawn Selar, mae Y Bandana yn fand hwyliog a chewch chi ddim mo’ch siomi!
PontioBangor
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 7
Ymunwyd: Mer 05 Rhag 2012 9:33 am

Dychwelyd i Gigs

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron