7.11.13:James Yorkston, Dave Wrench+mwy:Dylan's,Portheuthwy
Postiwyd: Llun 04 Tach 2013 12:06 pm
Gwyl Gardd Goll yn cyflwyno
James Yorkston / Jon Thorne / Suhail Yusuf Khan
Cefnogaeth - Lisa O'Neill & David Wrench
Tocyn £12
Argael o Dylan's neu https://www.facebook.com/#!/events/3656 ... 6/?fref=ts
Yn 2012, cynhalwyd arbrawf. Daeth cerddorion o India a'r DU at ei gilydd mewn stiwdio recordio dros dro yng Nghaeredin am wythnos i greu albym o ganeuon gwreiddiol. Daeth King Creosote, Suhail Yusuf Khan, The Pictish Trail, Slow Club, Found, James Yorkston, Raghu Dixit ac eraill yno, gan gydweithio a chreu gydai gilydd. Mae'r canlyniadau yn eithaf arbennig.
Yn ysbryd yr albym, mae tri o'r cyfranwyr yn mynd ar daith gyda'i gilydd am y tro cyntaf, yn chwarae gyda'i gilydd fel triawd a pherfformio cymysgedd o gerddoriaeth Indiaidd clasurol , jazz a cherddoriaeth gwerin gyfoes, ochr yn ochr â'u cyfansoddiadau eu hunain.
Meddyliwch Fife Vs Manceinion Vs Dehli ac efallai y byddwch yn agos i labelu perfformiad.
Mae'r gefnogaeth yn dod gan Lisa O'Neill - yn ganwr / cyfansoddwraig sy'n dod o Cavan ac o Ddulyn. Ar hyn o bryd mae'n recordio ei ail albym, ei cyntaf ar gyfer Domino. Hefyd yn cefnogi mae'r anhygoel David Wrench sy'n gynhyrchydd / cherddor lleol arbennig iwan.
Braint mawr yw gallu cyfwyno y cyngerdd arbennig yma sy'n rhan o daith o'r Alban, Cymru a Lloegr.
Uploaded with ImageShack.us