Tudalen 1 o 1

01.02.2014 : Ar Y Rêls - Georgia Ruth : Clwb Y Rheilffordd

PostioPostiwyd: Iau 09 Ion 2014 12:37 pm
gan Pontio-Bangor
Pontio a Gŵyl Gardd Goll yn cyflwyno...
Ar Y Rêls: Georgia Ruth

Sadwrn 1 Chwefror, 8pm
Clwb Rheilffordd Bangor
£10 / £8 gostyngiadau
(Cynnig Codwr Cynnar: £7 cyn Gwener 31 Ionawr)

ENNILLYDD GWOBR CERDDORIAETH CYMRU 2013

A hithau wedi’i magu’n ddwyieithog yn Aberystwyth, mae Georgia Ruth yn gantores, yn ysgrifennu caneuon ac yn chwarae’r delyn, a’i llais swynol wedi’i gymharu’n ffafriol â chantoresau gwerin hiraethus diwedd y 60au.
Ysbrydolwyd ei thechneg ar y delyn yn fwy gan arddull byseddol gitaryddion megis Bert Jansch a Meic Stevens na chan y dull clasurol a ddysgodd yn ei phlentyndod. Serch hynny, mae cerddoriaeth Georgia ei hun yn fwy na chyfuniad o’r dylanwadau cynnar hyn.
Mae’n rhywbeth eithaf gwahanol...

Mae Georgia yn cael ei chefnogi gan y canwr gwerin gyfoes Cymraeg Chris Jones.

“A dazzling debut, rich with sweet pain and joy” (Andy Gill – The Independent – 4*)

“Her own debut is a wonder, full of longing and melody” (MOJO – 4*)

“It could have been made in 1968, in the loveliest possible way” (Simon Price – The Independent on Sunday – 4*)

“One of the British folk discoveries of the year” (The Guardian)

“A delight.” (Folk Roots)

“Heaven.” (Lauren Laverne, 6Music)