Gŵyl Gardd Goll a Pontio yn cyflwyno...
Ar Y Rêls: Maffia Mr Huws + Y Rhacs
Sadwrn 22 mawrth, 8pm
Clwb Rheilffordd Bangor
£10 / £8 gostyngiadau
(Cynnig Codwr Cynnar: £7 cyn Gwener 21 Mawrth)
GRŴP ROC CYMRAEG ANHYGOEL
Am y tro cyntaf mae Maffia Mr Huws, un o fandiau mwyaf dylanwadol y sîn gerddoriaeth Gymreig ers yr 80au, yn dod â’u hegni a’u hagwedd arbennig i Ar y Rêls.
Mae’r grŵp yma, a ffurfiwyd ym Methesda, yn rym creadigol nodedig mewn roc Gymraeg – ac mae eu dylanwad yn mynd ymhell y tu hwnt i’w halbyms. Mae Maffia wedi rhyddhau 9 record – yn cynnwys casgliad o’u prif ganeuon yn 2008.
Gyda llais hudolus y prif leisydd, Neil Williams, a grym eu caneuon enwocaf, mae hwn yn fand gwych i wrando arno’n perfformio’n fyw.
Cefnogir Maffia gan fand ifanc o Ddyffryn Nantlle Y Rhacs.