Tudalen 1 o 1

22.03.2014 : Ar Y Rêls: Maffia Mr Huws : Clwb Y Rheilffordd

PostioPostiwyd: Iau 09 Ion 2014 1:29 pm
gan Pontio-Bangor
Gŵyl Gardd Goll a Pontio yn cyflwyno...
Ar Y Rêls: Maffia Mr Huws + Y Rhacs

Sadwrn 22 mawrth, 8pm
Clwb Rheilffordd Bangor
£10 / £8 gostyngiadau
(Cynnig Codwr Cynnar: £7 cyn Gwener 21 Mawrth)

GRŴP ROC CYMRAEG ANHYGOEL

Am y tro cyntaf mae Maffia Mr Huws, un o fandiau mwyaf dylanwadol y sîn gerddoriaeth Gymreig ers yr 80au, yn dod â’u hegni a’u hagwedd arbennig i Ar y Rêls.
Mae’r grŵp yma, a ffurfiwyd ym Methesda, yn rym creadigol nodedig mewn roc Gymraeg – ac mae eu dylanwad yn mynd ymhell y tu hwnt i’w halbyms. Mae Maffia wedi rhyddhau 9 record – yn cynnwys casgliad o’u prif ganeuon yn 2008.
Gyda llais hudolus y prif leisydd, Neil Williams, a grym eu caneuon enwocaf, mae hwn yn fand gwych i wrando arno’n perfformio’n fyw.
Cefnogir Maffia gan fand ifanc o Ddyffryn Nantlle Y Rhacs.

Re: 22.03.2014 : Ar Y Rêls: Maffia Mr Huws : Clwb Y Rheilffo

PostioPostiwyd: Maw 18 Chw 2014 1:31 pm
gan dil
ma' hwn penwsos ma'. dylie fod yn noson wych.