diolch i'r Argwlydd am nosweithiau da yn aber! once in a blue moon ond pan ma nhw mlan, ma nhw'n wych.
neithiwr yn y ganolfan celfyddydau daeth fingathing a'i fysedd cyflym a neis i ddiddanu'r 400ish o kids sydd, chware teg, wedi'u amddifadu o'r fath gerddoriaeth byw, da a gwych yn aber.
roedd y setting ychydig yn random- ar lawr ucha'r ganolfan, yn ardal y bar ond diolch i'r drefn roedd y sofas mawr dal yno ac yn gwneud y profiad yn hynnod fwy pleserus a cyfforddus. roedd y bar tipyn yn fach gyda ciwio massif ond dyna ni, rhywbeth i'w ystyried yn y dyfodol aye.
roedd ed scissorhands and co. yn dechrau'r noson gan osod y llwyfan ac yn annog y gynulleidfa i godi o'r sofas a dechrau colli ar y calories. yn yr ail ystafell roedd techno/funk/soul ond gwagiodd yn ddigon sydyn wrth i fingathing ddechrau ar ei driciau.
gyda un boi wedi'i arfogi a bas dwbwl electronig a'r llall yn gaeth i'r troellwyr a'r sampler aeth y noson yn ei blaen yn hwyliog dros ben. hiphopio oedd y drefn gyda bas anghygoel ar bob can, a hwnnw'n fas hynnod...dirty? dim cweit y gair ond yn amrwyd a raw iawn. pleserus a blasus. erbyn canol ei set daeth y techno, eto gyda gymaint o fas roedd rhaid ond symud. ychydig mwy o hip hop cyn gorffen gyda'r arbennig superhero music-arbennigarbennigarbennig. chware teg, parhaodd i droelli am sbel reit tan y diwedd cyn ein gadael ni gyd yn chwyslyd ac yn ysu am fwy. wel, rhai o ni ta beth- roedd yr awyrgylch yn mynd yn fwy flat wrth i'r noson fynd yn ei blaen, ddim cweit yn siwr beth oedd achos hyn, efallai bod yr animated visuals oedd ar y llwyfan yn tynnu gormod o sylw-er roedden nhw yn heuddu y sylw i gyd=eto, arbennig. beth bynnag oedd y rheswm, roedd pawb yn gwerthfawrogi, yn diolch yn fawr ac yn cwestiynnu pam nad oedd mwy o nosweithiau fel hon yn cael eu cynnal yn aber- er yn amlwg bod criw go dda o blant yn mwynhau'r nosweithiau. o wel, girls aloud a barry-gynt-o-eastenders amdani yn y may ball aye.gutted.