01.05.4 :Djs Unarddeg.com: Journeys, Caerdydd

Postiwch eich gigs yma! Darllenwch y cyfarwyddiadau!

Cymedrolwr: Norman

Rheolau’r seiat
Postiwch manylion eich gigs yma, ond cofiwch cynnwys y drindod sanctaidd yn y teitl sef - Dyddiad : Artistiaid : Lleoliad - e.e. 05.01.07 : Fflur Dafydd : Ship, Porthmadog. Rhowch gymaint o fanylion pellach ag sy'n bosib yn y neges ei hunan, gan gynnwys amser y gig, lleoliad, pris y tocyn, yr holl artistiaid ac ati. Er mwyn cael y gig i ymddangos yn y calendr hefyd, cofiwch ddewis y tab 'Digwyddiad Calendr' ar waelod y dudalen pan yn llunio'r neges, a mewnddodwch y dyddiad perthnasol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

01.05.4 :Djs Unarddeg.com: Journeys, Caerdydd

Postiogan TACSI 04 » Maw 27 Ebr 2004 12:53 am

Mai 1af. Djs Gwadd Gruff a Cynog Unarddeg.com. Felly dewch i wneud nhw'n gartrefol yn y brifddinas. Nos Sadwrn yma!
Chi'n gwybod lle ma Journeys erbyn hyn.


Mai 11eg. Jakokoyak a Cate Timothy, Acoustic. Noson Bandiau Journeys.
Mai 14. Jakokoyak, Cate Timothy, Sweet Baboo, David Mysterious. Clwb Peldroed Aber. Djs Ian C, Bethan Elfyn, Huw Stephens.
Rhithffurf defnyddiwr
TACSI 04
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 40
Ymunwyd: Gwe 05 Maw 2004 11:28 am

Postiogan nicdafis » Maw 27 Ebr 2004 7:26 am

Faint or gloch mae'r gigs yn dechrau? (Angen gwybod ar gyfer <a href="http://dysgu.com">dysgu.com</a>. Dw i'n trial cael mwy o ddygswyr i fynd i gigs.)

Diolch.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Gruff Goch » Maw 27 Ebr 2004 11:23 am

Does gynnon ni ddim decs da iawn, felly 'dan ni wedi bod yn ymarfer ar gyfer y noson drwy troelli disgiau ar blat y meicrodon. Wehey, sbarciau! :D

Mae'r 'ping' ar y diwedd yn handi hefyd; dwi'n poeni braidd y byddwn ni'n anghofio newid y record ar y decs 'iawn' yn Journeys hebdda fo. ;)

Unrhywun yn dod i lawr o'r Gogledd?
Rhithffurf defnyddiwr
Gruff Goch
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1148
Ymunwyd: Iau 12 Rhag 2002 1:22 pm
Lleoliad: neuadd fawr rhwng cyfyng furiau

Postiogan benni hyll » Maw 27 Ebr 2004 11:27 am

Alla i drefnu bod popty ping yn cael ei osod ar bwys y decks os ti am, Gruff. Jyst i neud i ti deimlo'n gartrefol ynde?
I can't control my heart rate, I got a cougar on me.
Rhithffurf defnyddiwr
benni hyll
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2065
Ymunwyd: Llun 16 Chw 2004 2:19 pm

Postiogan Gruff Goch » Maw 27 Ebr 2004 11:40 am

Chwarae teg i chdi! :D

Cofia bod angen dau (ac mae'n debyg fod y rhai direct drive yn well na'r rhai belt-driven)!
Rhithffurf defnyddiwr
Gruff Goch
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1148
Ymunwyd: Iau 12 Rhag 2002 1:22 pm
Lleoliad: neuadd fawr rhwng cyfyng furiau

Postiogan benni hyll » Maw 27 Ebr 2004 12:39 pm

Wedi trefnu 1 750 Watt Hinari ar gyfer un ochr, ac i'r Peski Kids ganu cloch ar hen feic penni farthing eu teidiau ar gyfer y llall. Gobeithio bydd hwn yn plesio. Cofiwch beidio rhoid y popty ping ar defrost yn lle max neu gallai fod yn drychinebus.
I can't control my heart rate, I got a cougar on me.
Rhithffurf defnyddiwr
benni hyll
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2065
Ymunwyd: Llun 16 Chw 2004 2:19 pm

Postiogan chicken lips » Maw 27 Ebr 2004 2:06 pm

O'n i'n ama pam fod Cynog yn jaireitio mor agos i'r llwyfan nos Sadwrn. Dwyn tricia trwynol Krafty Kuts fydd hi felly aiei! Mi fydda inna yna'n pingio 'fyd.
Rhithffurf defnyddiwr
chicken lips
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 129
Ymunwyd: Sad 20 Medi 2003 10:36 am
Lleoliad: Ar gadar yn swuflo

Postiogan Gruff Goch » Maw 27 Ebr 2004 2:49 pm

Diolch yn fawr Benni! Dwi'm yn gyfarwydd efo'r Hinari... ydi hi'n direct drive neu'n turnbelt driven? Faint o reolaeth sy gen ti dros y traw (rhywbeth fel +/- 10%) a fyddi di'n gallu dod a cebls ynta oes raid i fi ddod a rhai fy hun?

Chicken lips: Yr unig reswm oedd Cynog yn jairetio oedd fod ei drwsus o'n rhy fawr ac mae'n rhaid iddo fo hwla-hwpio'n ddi-baid mond i'w cadw nhw fyny... Welai di yn Kaaadiff!
Rhithffurf defnyddiwr
Gruff Goch
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1148
Ymunwyd: Iau 12 Rhag 2002 1:22 pm
Lleoliad: neuadd fawr rhwng cyfyng furiau

Postiogan benni hyll » Maw 27 Ebr 2004 3:00 pm

Gruff Goch a ddywedodd:Diolch yn fawr Benni! Dwi'm yn gyfarwydd efo'r Hinari... ydi hi'n direct drive neu'n turnbelt driven? Faint o reolaeth sy gen ti dros y traw (rhywbeth fel +/- 10%) a fyddi di'n gallu dod a cebls ynta oes raid i fi ddod a rhai fy hun?


Direct Drive. Mae'r 'pros' i gyd yn defnyddio nhw. Ti erioed di wondro sut mae Sasha yn twymo ei ready meals cyn set fawr? Neu sut mae Oakie yn deffrostio'r cyw iar na nath o anghofio tynnu allan o'r freezer cyn gadael i fynd i'r gwaith yn y bore? Hinari, innit?
I can't control my heart rate, I got a cougar on me.
Rhithffurf defnyddiwr
benni hyll
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2065
Ymunwyd: Llun 16 Chw 2004 2:19 pm

Amserlen

Postiogan TACSI 04 » Mer 28 Ebr 2004 9:25 am

Hi Nic,

Dyma'r amcangyfrif amserlen ar gyfer y gigs i ddod:

DJs http://www.uanrddeg.com 8.30 - 10 pm Journeys, Nos Sadwrn Yma,

Cate Timothy, 8.45 pm, Mai 11, Journeys, Nos Fawrth Nesaf.

Jakokoyak, 9.30 pm, Mai 11, Journeys, Nos Fawrth Nesaf

David Mysterious, Band Cyntaf yn Gig Aber, 8.45pm.

Hwyl,
Rhithffurf defnyddiwr
TACSI 04
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 40
Ymunwyd: Gwe 05 Maw 2004 11:28 am

Nesaf

Dychwelyd i Gigs

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron