06.05.4 :Ministry Of Defiance @ Chapter

Postiwch eich gigs yma! Darllenwch y cyfarwyddiadau!

Cymedrolwr: Norman

Rheolau’r seiat
Postiwch manylion eich gigs yma, ond cofiwch cynnwys y drindod sanctaidd yn y teitl sef - Dyddiad : Artistiaid : Lleoliad - e.e. 05.01.07 : Fflur Dafydd : Ship, Porthmadog. Rhowch gymaint o fanylion pellach ag sy'n bosib yn y neges ei hunan, gan gynnwys amser y gig, lleoliad, pris y tocyn, yr holl artistiaid ac ati. Er mwyn cael y gig i ymddangos yn y calendr hefyd, cofiwch ddewis y tab 'Digwyddiad Calendr' ar waelod y dudalen pan yn llunio'r neges, a mewnddodwch y dyddiad perthnasol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

06.05.4 :Ministry Of Defiance @ Chapter

Postiogan Mihangel Macintosh » Maw 27 Ebr 2004 1:23 pm

Bydd Ministry Of Defiance aka Dave Handford yn perfformio yn Chapter ar nos Iau 6 Mai am 9yh.

Mae nhw'n cynhyrchu electronica lo-fi ac wedi ei cymharu i Coil, Mount Vernon Arts Lab ac y BBC Radiophonic workshop.

Bydd Ministry Of Defiance yn perfformio ei LP Chapel Couture yn fyw gyda film super 8.

Mwy o fanylion: http://www.postofficerecords.com
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan Mihangel Macintosh » Mer 28 Ebr 2004 12:59 pm

Tamed bach mwy o wybodaeth i chi:

Ministry Of Defiance – Chapel Couture
Iau 6 Mai 8yh


Yn dilyn yr EP Listening To Learn, rhyddhawyd yr albwm Chapel Couture gan y Ministry Of Defiance yn Hydref 2003 a derbyniodd ymateb gwrsesog gan John Peel, Mixing It ar Radio 3 a WFMU yn Efrog Newydd. Bellach mae’r Ministry Of Defiance yn cyflwyno’r albwm fel perfformiad byw gyda ffilm yn Theatr Chapter, Caerdydd ar nos Iau 6 o fai am 8yh.

Ministry of Defiance ydy Dave Handford o Landudoch a phennaeth y label Post Office sy’n arbennigo mewn rhyddhau cerddoriaeth electroneg lo-fi. Ethos y label ydy i greu a chynnal cynnyrch cerddorol sydd ar gyrion sbectrwm cerddoriaeth electroneg. Prin iawn ydy’r bobl sy’n creu cerddoriaeth mor ddidwyll ag mae Ministry Of Defiance wedi ei gymharu â arbrofwyr fel Coil, Mount Vernon Arts Lab a Gweithdy Radioffonig y BBC.

Mae’r ffilm yn defnyddio darnnau o Super 8 ac wedi ei dorri a’i olygu er mwyn creu profiad sain weledol hynod o gyffroes. Deilia hyn o ymchwil Handford i mewn i archaeosnics.

Am wybodaeth pellach ynglŷn a’r digwyddiad hyn ffoniwch swyddfa docynnau Chapter ar 029 2030 440 neu http://www.chapter.org

Pris mynediad ydy £3.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan Mihangel Macintosh » Iau 06 Mai 2004 9:56 pm

Wel, lle oeddech chi'r ffwcars?

Na, ware teg, turnout da. Oedd y cyfuniad o ffilm a synnau electroneg yn rili dda. Oedd y ffwtij ar swper 8 yn edrych yn drawiladol iawn.

Newydd gael copi o'r albwm a dwi off adre i wrando arno fe.

Ma Ministry Of Defiance yn Theatr y Ciwb, Briste nos fori a wedyn lan i'r Alban.

Reu.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion


Dychwelyd i Gigs

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron