Tamed bach mwy o wybodaeth i chi:
Ministry Of Defiance – Chapel Couture
Iau 6 Mai 8yh
Yn dilyn yr EP
Listening To Learn, rhyddhawyd yr albwm
Chapel Couture gan y
Ministry Of Defiance yn Hydref 2003 a derbyniodd ymateb gwrsesog gan John Peel, Mixing It ar Radio 3 a WFMU yn Efrog Newydd. Bellach mae’r Ministry Of Defiance yn cyflwyno’r albwm fel perfformiad byw gyda ffilm yn Theatr Chapter, Caerdydd ar nos Iau 6 o fai am 8yh.
Ministry of Defiance ydy Dave Handford o Landudoch a phennaeth y label Post Office sy’n arbennigo mewn rhyddhau cerddoriaeth electroneg lo-fi. Ethos y label ydy i greu a chynnal cynnyrch cerddorol sydd ar gyrion sbectrwm cerddoriaeth electroneg. Prin iawn ydy’r bobl sy’n creu cerddoriaeth mor ddidwyll ag mae Ministry Of Defiance wedi ei gymharu â arbrofwyr fel Coil, Mount Vernon Arts Lab a Gweithdy Radioffonig y BBC.
Mae’r ffilm yn defnyddio darnnau o Super 8 ac wedi ei dorri a’i olygu er mwyn creu profiad sain weledol hynod o gyffroes. Deilia hyn o ymchwil Handford i mewn i
archaeosnics.
Am wybodaeth pellach ynglŷn a’r digwyddiad hyn ffoniwch swyddfa docynnau Chapter ar 029 2030 440 neu
http://www.chapter.org
Pris mynediad ydy £3.