Tudalen 1 o 3

Ian Paisley a Nutters Mewn Pwer

PostioPostiwyd: Llun 20 Rhag 2004 12:41 pm
gan Meic P
Iawn oce, dwi wedi dechrau edefyn arall am "Psycos yn Rheoli'r Byd"

Dwi jyst methu dallt sut bod cymaint o nutters yn gallu bod mewn pwer.

Cymerwch Ian Paisley er enghraifft. Dydi o'm yn amlwg i bawb fod y boi yma OFF EI BEN YN LLWYR! Eto, mae'r gefnogaeth iddo gan Unoliaethwyr yn anhygoel ac wedi bod felly ers y 50au

Darllenwch hwn.

Mae o yn ddyn ofnadwy sydd wedi annog casineb a chreu trafferthion cymunedol enbyd yng Ngogledd Iwerddon. Gallwch weld a chlywed y casineb yn y ffordd mae'n crynu wrth weiddi ei rants afiach

Pwy sgin engraifft o mentalist, sydd yn rhyfeddol dal hefo dipyn o bwer, neu wedi bod hefo yn ddiweddar

PostioPostiwyd: Llun 20 Rhag 2004 1:32 pm
gan sanddef
Roeddwn i'n byw yng Ngweriniaeth Iwerddon rhwng 1991 a 1994. "Our Ian" oedd Ian Paisley i 'nghyfeillion gweriniaethol,a hynny am fod ei outbursts yn neud cymaint o les i bropoganda'r IRA! :lol:

PostioPostiwyd: Maw 21 Rhag 2004 12:28 am
gan GT
Beth bynnag yr ydym ni yn meddwl am IP, mae'n canu cloch efo llawer iawn o Brotestaniaid yng Ngogledd Iwerddon. 'Dydi diystyru pobl yr ydym yn anghytuno efo nhw fel 'nytars' pan mae ganddynt boblogrwydd enfawr ddim yn syniad da.

PostioPostiwyd: Maw 21 Rhag 2004 4:07 pm
gan sanddef
GT a ddywedodd:Beth bynnag yr ydym ni yn meddwl am IP, mae'n canu cloch efo llawer iawn o Brotestaniaid yng Ngogledd Iwerddon. 'Dydi diystyru pobl yr ydym yn anghytuno efo nhw fel 'nytars' pan mae ganddynt boblogrwydd enfawr ddim yn syniad da.


Pwy sy'n ei ddiystyru fo?
Mae'r dyn amlwg yn nyter,ond un sydd mewm grym ydy rwan,felly nid oes neb,yn enwedig y gweriniaethwyr,yn ei ddiystyru bellach.

PostioPostiwyd: Iau 23 Rhag 2004 6:37 pm
gan Cwlcymro
GT a ddywedodd:Beth bynnag yr ydym ni yn meddwl am IP, mae'n canu cloch efo llawer iawn o Brotestaniaid yng Ngogledd Iwerddon. 'Dydi diystyru pobl yr ydym yn anghytuno efo nhw fel 'nytars' pan mae ganddynt boblogrwydd enfawr ddim yn syniad da.


Ma'r broses heddwch yng Ngogledd Iwerddon wedi methu am fod Ian Paisley isho cal tynnu llyn o'r IRA yn malu ei gynnau.
Dwi'n meddwl fod hunna yn ddigon o reswm i alw unrhywun yn nytar, dim ots be ydi ei gredoda erill o.

PostioPostiwyd: Gwe 24 Rhag 2004 12:05 am
gan Realydd
Paisley yn wleidydd clefer iawn.

PostioPostiwyd: Gwe 24 Rhag 2004 12:31 am
gan bartiddu
Saddam,Paisley,Addams,McGuinnues,Adair, Hitler, Bin Laden, Y Pab....Pwy Arall? ayb
Dynion "clefer iawn" yn osgoi cael eu difa gan eu gelynion! (hyd yn hyn mor belled mewn engraiift rhai!)
Pam?
Odi rhai pobol yn 'untouchable'?
Hynny yw,mae eu bodolaeth yn fuddiol i'w gelynion pennaf?
Rhyfedd o fyd! :winc:

PostioPostiwyd: Sul 26 Rhag 2004 5:33 pm
gan Cwlcymro
Ma Paisley wedi aros ar y top mor hir gan ei fod o'n dinistrio unrhyw wrthwynebydd sy'n barod i ffendio cyfaddawd efo Addams drw ei galw'n fradwyr a llwfrgwn.

Mae o yn mynnu petha gwirion fel y llun achos mae o yn gwbod y bysa unrhyw gyfaddawd yn gadael y drws yn gorad i riwun ei alw fo yn fradwr a llwfrgi.

PostioPostiwyd: Llun 27 Rhag 2004 12:17 pm
gan GT
'Dwi ddim yn cytuno efo IP, ond mae llawer iawn o bobl yn pleidleisio tros ei blaid. Mae llawer iawn o bobl yn pleidleisio tros SF hefyd. 'Dydi disgrifio'r naill ochr fel 'nytars' ddim mymryn mwy cynhyrchiol nag ydi disgrifio'r lleill fel 'hwliganiaid', 'llofryddwyr' ac ati.

PostioPostiwyd: Llun 27 Rhag 2004 12:26 pm
gan Cwlcymro
Doesna neb yn disgrifio'r ochra fel nytars, jusd yr un person.