Tudalen 2 o 3

PostioPostiwyd: Llun 27 Rhag 2004 12:39 pm
gan GT
Cwlcymro a ddywedodd:Doesna neb yn disgrifio'r ochra fel nytars, jusd yr un person.


Felly pleidleisiodd 175,000 neu 32% o boblogaeth y Gogledd i blaid sy'n cael ei harwain gan 'nytar' yn etholiadau Ewrop?

PostioPostiwyd: Llun 27 Rhag 2004 7:23 pm
gan Cwlcymro
Mi oddna lot o bobl yn cefnogi Saddam a Hitler hefyd, er ma nytars odda nhw.

PostioPostiwyd: Llun 27 Rhag 2004 8:09 pm
gan GT
Mae Paisley yn swnio fel nytar i ni am bod y math o wleidyddiaeth mae'n ymhel a fo yn gwahanol iawn i'r math yr ydym yn gyfarwydd a fo. Mae ei naratif gwleidyddol yn adlewyrchu ei wleidyddiaeth, ac nid yw'n ceisio addasu'r naratif hwnnw.

Mae cyd destun gwleidyddol yr ochr arall yn debyg i un Paisley, ond maent yn cyfathrebu efo'r tu allan mewn naratif sydd yn ddealladwy ac yn gyfarwydd. O ganlyniad nid ydynt yn dod drosodd fel nytars i ni.

PostioPostiwyd: Llun 27 Rhag 2004 8:37 pm
gan Cwlcymro
Dwi ddim yn ei alw fo'n nytar am ei fethiana cyfarthrebu o, dwi'n ei alw fo'n nytar am fod o yn spwilio y broses heddwch drwy fynnu am rwbath mor bitw o bathetic a llun pan ma'r IRA yn barod i unrhywun o'i ddewis fynd i weld y di-arfogi.

Dim ond dau reswm sydd yna dros fynnu llun.
1. 'Humiliatio' yr ochr arall o flaen y byd
2. Ei ddefnyddio fel propoganda i ddangos i'w gefnogwyr fod o ddim wedi cyfaddawdu, fod o wedi enill.

Ma rhwystro heddwch am resymau fel yna yn ddifiniad perffaith o nytar i fi.

PostioPostiwyd: Llun 27 Rhag 2004 8:56 pm
gan GT
Mae yna reswm posibl arall - nad ydi o eisiau i'r cytundeb lwyddo, ac felly mae'n gofyn am rhywbeth mae'n gwybod sy'n amhosibl.

PostioPostiwyd: Llun 27 Rhag 2004 9:42 pm
gan Realydd
GT a ddywedodd:Mae yna reswm posibl arall - nad ydi o eisiau i'r cytundeb lwyddo, ac felly mae'n gofyn am rhywbeth mae'n gwybod sy'n amhosibl.


Mae gofyn am lun i'w weld yn ddigon rhesymol i bawb heblaw Sin Fein a'r IRA. Dyna un rheswm fod Paisley'n wleidydd clyfar.

PostioPostiwyd: Llun 27 Rhag 2004 9:43 pm
gan Realydd
Cwlcymro a ddywedodd:Dim ond dau reswm sydd yna dros fynnu llun.
1. 'Humiliatio' yr ochr arall o flaen y byd
2. Ei ddefnyddio fel propoganda i ddangos i'w gefnogwyr fod o ddim wedi cyfaddawdu, fod o wedi enill.


Neu falle, fod o angen tystiolaeth fod yr arfau dychrynllyd yma wedi cael eu rhoi fewn. Digon rhesymol.

PostioPostiwyd: Llun 27 Rhag 2004 9:56 pm
gan GT
Realydd a ddywedodd:
Cwlcymro a ddywedodd:Dim ond dau reswm sydd yna dros fynnu llun.
1. 'Humiliatio' yr ochr arall o flaen y byd
2. Ei ddefnyddio fel propoganda i ddangos i'w gefnogwyr fod o ddim wedi cyfaddawdu, fod o wedi enill.


Neu falle, fod o angen tystiolaeth fod yr arfau dychrynllyd yma wedi cael eu rhoi fewn. Digon rhesymol.


'Tydi'r lluniau ddim yn dystiolaeth go iawn. Adroddiad De'chastelain ar faint o arfau sydd wedi eu difa ydi'r dystiolaeth. Rhywbeth i'w roi mewn pamffledi etholiadol ydi'r lluniau.

PostioPostiwyd: Maw 28 Rhag 2004 3:19 pm
gan Cwlcymro
Realydd a ddywedodd:
GT a ddywedodd:Mae yna reswm posibl arall - nad ydi o eisiau i'r cytundeb lwyddo, ac felly mae'n gofyn am rhywbeth mae'n gwybod sy'n amhosibl.


Mae gofyn am lun i'w weld yn ddigon rhesymol i bawb heblaw Sin Fein a'r IRA. Dyna un rheswm fod Paisley'n wleidydd clyfar.


'Pawb'?? Rhyfadd. Chdi ydi'r cynta i fi glwad yn deud hyn!

Realydd a ddywedodd:Neu falle, fod o angen tystiolaeth fod yr arfau dychrynllyd yma wedi cael eu rhoi fewn. Digon rhesymol.

Mae'r IRA yn gadael i unrhywun ma Paisley isho fod yno yn gwylio yr arfa yn cael ei dinistrio. Ma hynny yn lot mwy o brawf na unrhyw lun!

PostioPostiwyd: Maw 28 Rhag 2004 3:20 pm
gan Cwlcymro
GT a ddywedodd:Mae yna reswm posibl arall - nad ydi o eisiau i'r cytundeb lwyddo, ac felly mae'n gofyn am rhywbeth mae'n gwybod sy'n amhosibl.


Sydd unwaith eto yn golygu 'nytar'! :D