Annibyniaeth RWAN a ddywedodd:Pwynt da guvna'. 'Ymgynghorwyr' yw'r wast mwya ar bob dim fedrai feddwl am. Ymgynghorwyr a cyflwynwyr cyrsiau management cachu. I'w bwydo i'r cwn. ASAP.
Ond lle mae hyn yn ffitio mewn i'r mythical 'dosbarth canol'? Wast ar wanc ydi wast ar wanc, pwy bynnag 'ddosbarth' ydynt.
Roeddwn i'n stryglo i gael teitl addas Cymraeg i'r edefyn yma i ddweud y gwir, a dwi wedi ei newid rwan gan fod dosbarth canol ddim yn deitl teg. Mae gen i barch mawr i nifer fawr o bobl ddosbarth canol: doctors, athrawon, academics, milfeddygon etc. gan fod rhain yn adio gwerth at gymdeithas.
Y bobl yna ti wedi ei ddisgrifio uchod yw'r rhai sydd wirioneddol yn fy nghythruddo gan fod nhw'n gallu gwneud gyrfa'n seiliedig ar bullsh** a ddim yn adio gwerth o ddifri i gymdeithas, yn fy marn i.
Parasites.
Neis gweld fod rhywun arall yn teimlo'r un peth am rhain! Mae llawer o staff y dyddie yma'n gwybod fod y stwff yma'n bullsh** ond mae nhw'n mynd i'r pethau beth bynnag er mwyn cael diwrnod off a buffet.
Mae trio cael codiad cyflog gan eich bos yn sialens a hanner, ond mae rheolwyr dyddie yma'n ddigon hapus i losgi arian ar y math yma o sothach.