Tudalen 1 o 1

Parasitiau ein cymdeithas

PostioPostiwyd: Mer 23 Chw 2005 4:41 pm
gan Realydd
Oes gormod o reolwyr ac ymgynghorwyr yn ein gwlad? Yw nhw werth dwy neu dair gwaith cyflog eu staff?

Rydym wastad yn clywed am sut mae gweithwyr sydd oddi ar gwaith yn sal yn costio biliynau i'r wlad bob blwyddyn, a mae rheolwyr yn gallu bod yn gas iawn hefo staff sydd ffwrdd o'r gwaith yn sal.

Ydy hi ddim yn amser i bobl ofyn i'r rheolwyr egluro'r defnydd o'u amser nhw yn well a ffeindio allan pa werth mae nhw'n ei ychwanegu i'r gwaith?

Gwler yr adroddiad yma sy'n egluro sut mae cyfarfodydd diflas yn costio £8bn y flwyddyn i Brydain.

PostioPostiwyd: Iau 24 Chw 2005 4:49 pm
gan Annibyniaeth RWAN
D... dw...dwi'n...cyt....cytuno efo Re... Real... uuurrrrrrrghhhhhhh fedrai'm ddeud o :crechwen: :winc:

Pwynt da guvna'. 'Ymgynghorwyr' yw'r wast mwya ar bob dim fedrai feddwl am. Ymgynghorwyr a cyflwynwyr cyrsiau management cachu. I'w bwydo i'r cwn. ASAP.

Ond lle mae hyn yn ffitio mewn i'r mythical 'dosbarth canol'? Wast ar wanc ydi wast ar wanc, pwy bynnag 'ddosbarth' ydynt.

PostioPostiwyd: Iau 24 Chw 2005 5:02 pm
gan Realydd
Annibyniaeth RWAN a ddywedodd:Pwynt da guvna'. 'Ymgynghorwyr' yw'r wast mwya ar bob dim fedrai feddwl am. Ymgynghorwyr a cyflwynwyr cyrsiau management cachu. I'w bwydo i'r cwn. ASAP.

Ond lle mae hyn yn ffitio mewn i'r mythical 'dosbarth canol'? Wast ar wanc ydi wast ar wanc, pwy bynnag 'ddosbarth' ydynt.


Roeddwn i'n stryglo i gael teitl addas Cymraeg i'r edefyn yma i ddweud y gwir, a dwi wedi ei newid rwan gan fod dosbarth canol ddim yn deitl teg. Mae gen i barch mawr i nifer fawr o bobl ddosbarth canol: doctors, athrawon, academics, milfeddygon etc. gan fod rhain yn adio gwerth at gymdeithas.

Y bobl yna ti wedi ei ddisgrifio uchod yw'r rhai sydd wirioneddol yn fy nghythruddo gan fod nhw'n gallu gwneud gyrfa'n seiliedig ar bullsh** a ddim yn adio gwerth o ddifri i gymdeithas, yn fy marn i. Parasites. :drwg:

Neis gweld fod rhywun arall yn teimlo'r un peth am rhain! Mae llawer o staff y dyddie yma'n gwybod fod y stwff yma'n bullsh** ond mae nhw'n mynd i'r pethau beth bynnag er mwyn cael diwrnod off a buffet.

Mae trio cael codiad cyflog gan eich bos yn sialens a hanner, ond mae rheolwyr dyddie yma'n ddigon hapus i losgi arian ar y math yma o sothach.

PostioPostiwyd: Gwe 25 Chw 2005 9:44 am
gan ceribethlem
realydd a ddywedodd:Mae trio cael codiad cyflog gan eich bos yn sialens a hanner

Gwir, ond hefyd Mae trio cael codiad gan eich bos yn sialens a hanner :lol: