Tudalen 1 o 1

Newid y clociau

PostioPostiwyd: Iau 03 Maw 2005 2:33 pm
gan Realydd
Gweler yma, yma ac yma

I weithiwr 9-5 fel fi, dwi ddim yn hapus hefo gorfod troi'r cloc yn ei ol dros y gaeaf. Pan mae hi'n dywyll fedra i ddim mynd allan o'r ty am dro, ar fy meic fel y buaswn yn dymuno gwneud os buasai golau dydd. Dim gwahaniaeth gen i os yw hi'n dywyllach am hirach yn y bore- ar ol gwaith dwi eisiau golau. Rydw i'n gwerthfawrogi fod falle rhai pobl eraill hefo barn hollol groes (e.e. ffermwyr?) ond dyna fy marn i.

Yr Albanwyr sydd fwyaf eisiau newid y cloc yn ei ol fel dwi'n deall. Wel pam na fuasai nhw'n cael time zone gwahanol acw, mae ganddyn nhw senedd rwan, fel fod pobl Cymru a Lloegr yn gallu cael nosweithiau fwy golau dros y gaeaf yn lle fod ni'n hybernatio fel hyn.

PostioPostiwyd: Gwe 04 Maw 2005 12:54 am
gan Dielw
pan 8 -8 di does dim ffwc o ots

PostioPostiwyd: Gwe 04 Maw 2005 9:25 am
gan sian
Rwy'n cofio rhyw flwyddyn - tua 1969 neu 1970 - wnaethon nhw ddim troi'r clociau 'nôl dros y gaeaf, fel rhyw fath o arbrawf.
Roedd hi'n dywyll pan oedden ni'n cyrraedd yr ysgol yn y bore ac roedden ni'n ffaelu gweld y bêl wrth chwarae pêl-droed cyn dechrau'r ysgol.
Rwy'n credu eu bod nhw wedi penderfynu peidio â chario ymlaen â'r arbrawf am fod yna fwy o ddamweiniau yn y boreau'r flwyddyn honno. Ac roedd adeiladwyr ac ati'n ffaelu dechrau gweithio tan yn hwyrach pan oedd hi wedi rhewi.

PostioPostiwyd: Gwe 04 Maw 2005 12:27 pm
gan Realydd
sian a ddywedodd:Rwy'n credu eu bod nhw wedi penderfynu peidio â chario ymlaen â'r arbrawf am fod yna fwy o ddamweiniau yn y boreau'r flwyddyn honno.


Oedd llai o ddamweiniau yn y nos, tybed?

PostioPostiwyd: Sul 06 Maw 2005 9:58 pm
gan Selador
Realydd a ddywedodd:
sian a ddywedodd:Rwy'n credu eu bod nhw wedi penderfynu peidio â chario ymlaen â'r arbrawf am fod yna fwy o ddamweiniau yn y boreau'r flwyddyn honno.


Oedd llai o ddamweiniau yn y nos, tybed?

Dydi plant ddim yn mynd i'r ysgol yn y nos Realydd yr hen fanana. Dwin cofio darllen am hynna hefyd Sian, bod llawer mwy o ddamweiniau car wedi digwydd yn gynnar yn y bore a ballu.
(Os oedd Sian yn yr ysgol, yn '69, ac yn cicio pel, a ma genod yn sdopio cicio pel pan manw tua 10, ma rhaid bod sian yn o leia 45!)

PostioPostiwyd: Sul 06 Maw 2005 11:17 pm
gan Realydd
Selador a ddywedodd:Dydi plant ddim yn mynd i'r ysgol yn y nos Realydd yr hen fanana.


Ai ddim ond ar y ffordd i'r ysgol mae posib cael damwain? Ew, mae rhywun yn dysgu rhywbeth newydd bob dydd.

PostioPostiwyd: Sul 06 Maw 2005 11:19 pm
gan Selador
Realydd a ddywedodd:
Selador a ddywedodd:Dydi plant ddim yn mynd i'r ysgol yn y nos Realydd yr hen fanana.


Ai ddim ond ar y ffordd i'r ysgol mae posib cael damwain? Ew, mae rhywun yn dysgu rhywbeth newydd bob dydd.

Wel, mae plant yn fwy tueddol o gal eu taro lawr gan geir ar y ffordd i'r ysgol na ar y ffordd fyny grisha i nol Mr Blobby.

Re: Newid y clociau

PostioPostiwyd: Sul 06 Maw 2005 11:26 pm
gan Ramirez
Realydd a ddywedodd:ar ol gwaith dwi eisiau golau


shit, the sun fucked up again.

alli di ddim rhoi time zone gwahanol i'r alban, achos mi fasa na 25 time zone wedyn, a mi fasa hynna'n ffwcio pob dim i fyny, achos mae'r 24 time zone yn cyfateb i 24 awr.

dwi ddim yn credu rhywsut ei bod yn practical newid yr holl system cadw amser er mwyn i chdi gael mynd am dro ar dy feic.

PostioPostiwyd: Sul 06 Maw 2005 11:53 pm
gan Selador
Ei bois, dachin cofio nin cal y sgwrs na yn ty mwddrwg a fi'n deud bona states sy chwartar awr yn wahanol a sdwff wedyn atho nin hollol pisd!

PostioPostiwyd: Sul 06 Maw 2005 11:55 pm
gan Ramirez
Selador a ddywedodd:Ei bois, dachin cofio nin cal y sgwrs na yn ty mwddrwg a fi'n deud bona states sy chwartar awr yn wahanol a sdwff wedyn atho nin hollol pisd!


yn bendant. ddigon posib fod Sioni Size a Realydd efo'r un meddylfryd yma. Time Zones- not for everyone?