Tudalen 1 o 1

Siesta

PostioPostiwyd: Iau 03 Maw 2005 3:05 pm
gan Realydd
I lawer o bobl, mae 'dip' yn eu bywiogrwydd rhwng 2-4pm. Yn sicr dwi'n un o'r bobl yma, ddim gwahaniaeth faint dwi wedi ei gysgu'r noson cynt na faint o fwyd dwi wedi ei fwyta i ginio, na pha mor boeth yw hi'r tu allan.

Os buaswn i'n Sbaenwr buaswn yn cael mwynhau Siesta. Falle byddai 15 munud o nap yn gwneud byd y wahaniaeth i fy mywiogrwydd ar gyfer gwaith y prynhawn.

Pan nad yw gweithwyr eraill yr EU yn cael Siesta?

PostioPostiwyd: Iau 03 Maw 2005 3:54 pm
gan Chwadan
Mae nhw'n cael siesta yn ne Ffrainc a'r Eidal hefyd...yn yr holl lefydd poeth. Da ni'm yn cael un achos da ni'm yn byw mewn gwlad lle ma na wres llethol rhwng 2-4 y pnawn :crio:

Ella gawn ni un os ydi global warming yn gwaethygu :D

Re: Siesta

PostioPostiwyd: Iau 03 Maw 2005 5:01 pm
gan sian
Realydd a ddywedodd:I lawer o bobl, mae 'dip' yn eu bywiogrwydd rhwng 2-4pm.


Mae hyn yn wir amdana i hefyd - ond rwy fel cricsen (ys dywedai mam-gu) wedyn erbyn tua 11pm.

Re: Siesta

PostioPostiwyd: Iau 03 Maw 2005 5:04 pm
gan finch*
sian a ddywedodd:rwy fel cricsen (ys dywedai mam-gu) wedyn erbyn tua 11pm.


Yw hyn yn beth da neu'n beth drwg? Oes angen offer neu gymwysterau arbennig? :?