Wedi gweithio ym maes iechyd meddwl ers 30 mlynedd rwy'n GWYBOD bod canabis yn ffwcio meddyliau pobl, ac mae'r cyngor gorau yw peidio â'i ddefnyddio.
Rwyf hefyd yn gwybod mae "agwedd" yr ieuanc yw - O! Mae o'n Rhech rhy Hen i wybod dim am ganabis (a hyn gan blant dilladlawn yn gwrando ar Rolff Harris yng Nglastonbury

Yr hyn sydd ei angen efo POB cyffur sy'n caethiwo, boed cyfreithiol neu anghyfreithlon, yw cymorth i ddatod y rhwymau.
Yr hyn sy'n wast o amser a bywyd yw "brandio" defnyddwyr cyffur yn droseddwyr.
Rhaid derbyn, yn y byd sydd ohoni, bod rhai yn camddefnyddio cyffuriau cyfreithlon ac anghyfreithlon .
Wrth roi bob cymorth meddygol i'r sawl sydd am roi'r gorau i'w caethiwed, rhaid derbyn bod eraill tu hwnt i bob cymorth, a gadael iddynt farw (gyda ddigniti) yn eu cawl eu hunain heb eu beirniadu.