Tudalen 1 o 4

Canabis

PostioPostiwyd: Maw 19 Ebr 2005 11:48 pm
gan Hogyn o Rachub
Haia. Rydym ni'n gneud prosiect ar ganabis Ddydd Iau, a 'swn i jyst yn licio gofyn beth ydi barn pobl am ei gyfreithloni?

PostioPostiwyd: Mer 20 Ebr 2005 12:30 am
gan Norman
"Na ddylid" > Mi eith yn ddryd ac yn wan !

PostioPostiwyd: Mer 20 Ebr 2005 8:40 am
gan Gruff Lovgreen
Dwi'n meddwl os ddoith on gyfreithlon, fydd pobl yn dechra trio cal cyffuria erill yn gyfreithlon hefyd. Ma petha'n iawn fel ma nw rwan, hynny ydi bod canabis ar gal i'r rhai sy isho fo, ond ddim mewn siopau ag ati.

PostioPostiwyd: Mer 20 Ebr 2005 8:51 am
gan Garnet Bowen
Mae gen i go fod 'na drafodaeth hirfaith wedi bod ar y pwnc o'r blaen, ond toes gen i ddim 'mynedd mynd i chwilio amdani. Yn bersonol, dwi'n trin canabis, ac unrhyw gyffur arall, fel dewis personol. Pa hawl sydd gan y wladwriaeth i wahardd unigolyn rhag ymddwyn mewn dull sydd ond yn niweidio y fo ei hun?

PostioPostiwyd: Mer 20 Ebr 2005 9:49 am
gan S.W.
Garnet Bowen a ddywedodd:Mae gen i go fod 'na drafodaeth hirfaith wedi bod ar y pwnc o'r blaen, ond toes gen i ddim 'mynedd mynd i chwilio amdani. Yn bersonol, dwi'n trin canabis, ac unrhyw gyffur arall, fel dewis personol. Pa hawl sydd gan y wladwriaeth i wahardd unigolyn rhag ymddwyn mewn dull sydd ond yn niweidio y fo ei hun?


Cytuno a cyfreithloni canabis ond o fewn cyfyngiadau. Mae ganddo ddibenion iechyd, a bydd nifer sylweddol o dreth yn gallu cael ei godi arno. Ond ble mae Heroin ayyb yn y cwestiwn dwi ddim mor siwr a dylid eu cyfreithloni oherwydd bod yr effaith maent yn ei gael yn fwy - tor cyfraith, chwalu teuluoedd a cymdeithas ayyb

PostioPostiwyd: Mer 20 Ebr 2005 9:51 am
gan Sleepflower
Ychydig o ffeithiau:

*Mae Cannabis yn achosi cyflymder yn natblygiad salwch meddwl.
*Er fod Heroine llawer fwy peryglus yn nhermau fod yn gaeth i gyfur, mae problemau sy'n deillio o Cannabis, megis salwch meddwl, yn parahau ar i'w ddefnydd dod i ben, lle mae problemau corfforol sy'n deillio o Heroine yn ymadael y corff ar ol stopio ei ddefnyddio.

Er hynny, sai'n cytuno gyda'r lol Mae'n arwain at bethau cryfach -mae hyn yn ddadl llawer rhy wan.

Ond uchod gwelir rhesymau pam na ddyid cyfreithloni cannabis.

PostioPostiwyd: Mer 20 Ebr 2005 12:03 pm
gan Garnet Bowen
S.W. a ddywedodd:Ond ble mae Heroin ayyb yn y cwestiwn dwi ddim mor siwr a dylid eu cyfreithloni oherwydd bod yr effaith maent yn ei gael yn fwy - tor cyfraith, chwalu teuluoedd a cymdeithas ayyb


Tor cyfraith? Chwalu teuluoedd? Onid ydi alcohol yn creu llawr iawn mwy o dor-cyfraith, ac yn chwalu lot mwy o deuluoedd na wnaiff herion byth?

PostioPostiwyd: Mer 20 Ebr 2005 12:13 pm
gan S.W.
Garnet Bowen a ddywedodd:
S.W. a ddywedodd:Ond ble mae Heroin ayyb yn y cwestiwn dwi ddim mor siwr a dylid eu cyfreithloni oherwydd bod yr effaith maent yn ei gael yn fwy - tor cyfraith, chwalu teuluoedd a cymdeithas ayyb


Tor cyfraith? Chwalu teuluoedd? Onid ydi alcohol yn creu llawr iawn mwy o dor-cyfraith, ac yn chwalu lot mwy o deuluoedd na wnaiff herion byth?


Ydy mae CAMDDEFNYDD o alcohol yn chwalu amryw o fywydau yn ddyddiol, ond mae heroin dipyn yn wahanol i mynd am beint neu 2 ar nos Fercher!

A synnwn i ddim pe bai Heroin yn dod yn gyfreithlon ac yn haws i gael gafael arno byddai llawer mwy o bobl yn dioddef o'i effaith nag y byddai pobl hynny sy'n yfed!

PostioPostiwyd: Mer 20 Ebr 2005 12:24 pm
gan Meiji Tomimoto
S.W. a ddywedodd:[A synnwn i ddim pe bai Heroin yn dod yn gyfreithlon ac yn haws i gael gafael arno byddai llawer mwy o bobl yn dioddef o'i effaith nag y byddai pobl hynny sy'n yfed!


Mae rhan fwyaf o bobol sydd di trio neu yn trio dod off Heroin yn iwsio Methadone ar berscripition. Gelli di ddadlau fod math ohonno yn gyfreithlon yn barod trwy'r drws cefn. Mae dynes yn llundain yn cael Diamorphine ar berscription yn barod.

Cannabis yn un tricky. 'sgen i ddim problem efo grannies yn neud cacennau i lleihau poen cricymalau a.y.y.b ond ma' kids 11 yn smocio fo tra bod eu brains yn dal i dyfu yn mynd i fod yn straen mawr ar yr adnoddau iechyd medddwl gwael sydd genna ni.
O.N Nath rhywyn sylwi fod dim gair am iechyd meddwl yn manifesto P.C?

PostioPostiwyd: Mer 20 Ebr 2005 12:30 pm
gan S.W.
Meiji Tomimoto a ddywedodd:
S.W. a ddywedodd:[A synnwn i ddim pe bai Heroin yn dod yn gyfreithlon ac yn haws i gael gafael arno byddai llawer mwy o bobl yn dioddef o'i effaith nag y byddai pobl hynny sy'n yfed!


Mae rhan fwyaf o bobol sydd di trio neu yn trio dod off Heroin yn iwsio Methadone ar berscripition. Gelli di ddadlau fod math ohonno yn gyfreithlon yn barod trwy'r drws cefn. Mae dynes yn llundain yn cael Diamorphine ar berscription yn barod.

Cannabis yn un tricky. 'sgen i ddim problem efo grannies yn neud cacennau i lleihau poen cricymalau a.y.y.b ond ma' kids 11 yn smocio fo tra bod eu brains yn dal i dyfu yn mynd i fod yn straen mawr ar yr adnoddau iechyd medddwl gwael sydd genna ni.
O.N Nath rhywyn sylwi fod dim gair am iechyd meddwl yn manifesto P.C?


Dwin deallt bod modd gael methodone ac ati, ondmae problemau wedi bod hefo hwn hefyd - dyna pam bod yn rhaid i'r rhai syn ei ddefnyddio ei yfed o flaen y Fferyllydd rwan a dim mynd a fo adre.

Pa air sydd am iechyd meddwl te yn y Maniffesto? Dwim yn siwr beth yw dy bwynt yma?