Dyma'r
drafodaeth arall gafwyd ar y maes am canabis gyda llaw.
Ti'n son am rieni'n gorfod mynd drwy'r boen o addysgu eu plant os caiff canabis ei gyfreithloni - ydyn nhw ddim yn gorfod gwneud hyn yn barod gan fod canabis mor hawdd i gael gafael arno rwan?
Hwn ydi'r pwynt sgen i: cyfreithlonwch canabis a bydd hanner incwm crwcs Prydain yn cael ei ddileu mewn ennyd. Bydd y canabis fydd ar gael yn lefelau cryfder saffach (neu o leia bydd yn fwy rheoledig) ac yn cynnwys llai o rwtsh. Bydd y llywodraeth yn gneud yr arian yn lle'r gangstars. Bydd llai o dealers o amgylch y lle gan fod cyffuriau Class A yn eu natur yn bethau sydd a defnydd llai cyson na hash, felly llai o arian i'w wneud.
Dwi'n cytuno fod smocio hash yn gallu chwyddo problemau meddyliol, os mae nhw'n bodoli'n barod, ond os mae pobol am smocio fo beth bynnag ydi hi ddim yn well cael addysg a gwybodaeth gall amdano fo yn hytrach na thrio esgus fod hwn ddim yn rhan o gymdeithas heddiw?
Mae fel y newyddion fod
y gyfraith rwan yn codi Madarch Hud o fod yn Class C (pan ma wedi'i drin) i fod yn gyffur Class A - yr un peth a crac. Rhywbeth sy'n tyfu yn y cae tu ol i;ch ty chi, yr un lefel o berygl i gymdeithas a crac. Ffac, faswn i'n codi alcohol i fod yn gyffur Class A os mae dyna ydi'r criteria ma'n nhw'n ddefnyddio.
Faint o bobol sydd wedi bod yn wrth-gymdeithasol (a dwi'm yn son am fethu cael sgwrs am eu bod nhw'n chwerthin gormod) ar fadarch hud?
Ydi gwneud nhw'n Class A yn mynd i sdopio bobol rhag mynd i'r cae a byta nhw? Nacdi, mae o mond yn crimnialeiddio rhywbeth gymharol ddiniwed - a dewis personol unigolyn.
Ond pwnc am edefyn arall di hwnna debyg...
Maes-eio ers 2002, yo.