Garnet Bowen a ddywedodd:Mae gen i go fod 'na drafodaeth hirfaith wedi bod ar y pwnc o'r blaen, ond toes gen i ddim 'mynedd mynd i chwilio amdani. Yn bersonol, dwi'n trin canabis, ac unrhyw gyffur arall, fel dewis personol. Pa hawl sydd gan y wladwriaeth i wahardd unigolyn rhag ymddwyn mewn dull sydd ond yn niweidio y fo ei hun?
S.W. a ddywedodd:Ond ble mae Heroin ayyb yn y cwestiwn dwi ddim mor siwr a dylid eu cyfreithloni oherwydd bod yr effaith maent yn ei gael yn fwy - tor cyfraith, chwalu teuluoedd a cymdeithas ayyb
Garnet Bowen a ddywedodd:S.W. a ddywedodd:Ond ble mae Heroin ayyb yn y cwestiwn dwi ddim mor siwr a dylid eu cyfreithloni oherwydd bod yr effaith maent yn ei gael yn fwy - tor cyfraith, chwalu teuluoedd a cymdeithas ayyb
Tor cyfraith? Chwalu teuluoedd? Onid ydi alcohol yn creu llawr iawn mwy o dor-cyfraith, ac yn chwalu lot mwy o deuluoedd na wnaiff herion byth?
S.W. a ddywedodd:[A synnwn i ddim pe bai Heroin yn dod yn gyfreithlon ac yn haws i gael gafael arno byddai llawer mwy o bobl yn dioddef o'i effaith nag y byddai pobl hynny sy'n yfed!
Meiji Tomimoto a ddywedodd:S.W. a ddywedodd:[A synnwn i ddim pe bai Heroin yn dod yn gyfreithlon ac yn haws i gael gafael arno byddai llawer mwy o bobl yn dioddef o'i effaith nag y byddai pobl hynny sy'n yfed!
Mae rhan fwyaf o bobol sydd di trio neu yn trio dod off Heroin yn iwsio Methadone ar berscripition. Gelli di ddadlau fod math ohonno yn gyfreithlon yn barod trwy'r drws cefn. Mae dynes yn llundain yn cael Diamorphine ar berscription yn barod.
Cannabis yn un tricky. 'sgen i ddim problem efo grannies yn neud cacennau i lleihau poen cricymalau a.y.y.b ond ma' kids 11 yn smocio fo tra bod eu brains yn dal i dyfu yn mynd i fod yn straen mawr ar yr adnoddau iechyd medddwl gwael sydd genna ni.
O.N Nath rhywyn sylwi fod dim gair am iechyd meddwl yn manifesto P.C?
Dychwelyd i Cell Gymysg Wleidyddol
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai