Tudalen 2 o 4

PostioPostiwyd: Mer 20 Ebr 2005 12:51 pm
gan Iesu Nicky Grist
S.W. a ddywedodd: Dwim yn siwr beth yw dy bwynt yma?


Core vote 'an

PostioPostiwyd: Mer 20 Ebr 2005 12:57 pm
gan S.W.
Iesu Nicky Grist a ddywedodd:
S.W. a ddywedodd: Dwim yn siwr beth yw dy bwynt yma?


Core vote 'an


Huh? :? Wrach na fi sy'n araf iawn iawn iawn iawn ond dwi ar goll - dwim hyn yn oed yn gwbod be ma hynny'n feddwl!

PostioPostiwyd: Mer 20 Ebr 2005 2:26 pm
gan Chwadan
S.W. a ddywedodd:
Meiji Tomimoto a ddywedodd:O.N Nath rhywyn sylwi fod dim gair am iechyd meddwl yn manifesto P.C?

[...]
Pa air sydd am iechyd meddwl te yn y Maniffesto? Dwim yn siwr beth yw dy bwynt yma?


Dim gair...:winc:

PostioPostiwyd: Mer 20 Ebr 2005 2:31 pm
gan S.W.
Chwadan a ddywedodd:
S.W. a ddywedodd:
Meiji Tomimoto a ddywedodd:O.N Nath rhywyn sylwi fod dim gair am iechyd meddwl yn manifesto P.C?

[...]
Pa air sydd am iechyd meddwl te yn y Maniffesto? Dwim yn siwr beth yw dy bwynt yma?


Dim gair...:winc:


Reeeeeit, ond dwin siwr bod amryw o faterion sydd heb eu trafod ar y maniffesto.

Byddwn yn gobeithio bod ganddynt bolisiau yn eu lle i ddelio a'r mater pwysig yma.

Beth bynnag nol at y pwynt - h.y Canabis

PostioPostiwyd: Mer 20 Ebr 2005 2:41 pm
gan nicdafis
S.W. a ddywedodd:Ydy mae CAMDDEFNYDD o alcohol yn chwalu amryw o fywydau yn ddyddiol, ond mae heroin dipyn yn wahanol i mynd am beint neu 2 ar nos Fercher!


Ydy e? Ym mha ffordd?

Mae "camddefnyddio" (sef, gorddefnyddio, fel arfer) unrhyw gyffur yn bownd o achosi problemau, ond does dim rheswm pam ydy rhywun sy'n defnyddio heroin mewn ffordd cymedrol (fel dy "beint neu ddau nos Fercher") yn ffaelu byw bywyd normal. Mae cannoedd o bobl sy'n defnyddio cyffuriau Dosbarth A yn wythnosol heb golli eu swyddi, eu teuluoedd, na eu bywydau. Oedd William Burroughs yn jynci am hanner canrif, a bu farw yn 83 oed. Wnaeth ei fab farw yn 32 oed gan ei fod e ddim mor gall รข'i dad, ymysg pethau eraill.

Prif rheswm bod rhai cyffuriau yn fwy peryglus nag eraill yw eu bod yn anghyfreithlon, yn gostus, a gan nad ydyn nhw'n "derbyniol yn gymdeithasol", mae defnyddwyr ifainc/amhrofiadol yn fwy tebyg i fod yn anwybodol o'u peryglon. Ac mae safon cyffuriau'r stryd yn isel, wrth gwrs.

Y peth dw i ddim yn lico am gyffuriau yw'r bobl sy ddim yn gwybod sut i'w handlo, ac mae hyn yn lot mwy o broblem gyda alcohol nag unrhyw gyffur arall. 'Sai wedi fy nghorneli gan <i>speedfreak</i> ers meithin, ond mae rhaid i mi osgoi <i>pissheads</i> bob tro dw i mas yn Aberteifi.

Dylai canabis fod yn gyfreithiol. Dylai fod yn orfodol i rhai pobl.

PostioPostiwyd: Mer 20 Ebr 2005 3:18 pm
gan Blewyn
Mae'na ddigonedd o bobl a fedr reidio motobeic grymus, neu hedfan awyren yn saff, neu fod yn berchennog o arfau tanllyd heb eu defnyddio i niweidio eraill. T'ydy hyn ddim yn ddadl o blaid gadael i'r gweddill gael eu dwylo ar y pethau yma hefyd.

Yr un thema gonstant dwi'n weld yn y dadlau o'r ochr o blaid cyffuriau yw hawliau personol, a 'chydig iawn am gyfrifoldebau cymunedol. Os wyt ti am gyfreithloni rhywbeth, mae'n rhaid gofyn beth yw gwerth y peth hwnnw i gymdeithas, a beth yw ei gost. Pros and cons ia. Pro gwn ydy y gallu i bobol amddiffyn eu hunain. Y con yw eu gallu i ymosod ar eraill. Con cannabis yw y ffaith ei fod yn hollol sicr, mewn gwlad o dair miliwn (neu 56 os ti'n son am yr UK), y bydd yna nifer o ddamweiniau ar y lon neu mewn gweithfeydd yn achosi anaf neu waeth, achos mi fydd yna, yn sicr, leiafrif neith gambihafio. Beth ydy pro cannabis (heblaw am ddefnydd meddygol, mi fedr hwnnw gael ei gyflawni mewn ffurf gwahanol) ?

I roi y cwestiwn ffordd arall, faint o farwolaethau ar y lon bob blwyddyn fyset ti yn dweud sy'n ormod, petae cyfreithloni cannabis yn eu achosi ?

Blewyn

PostioPostiwyd: Mer 20 Ebr 2005 3:55 pm
gan Sili
Oh brofiad personnol (dwi rioed wedi defnyddio cannabis yn y mywyd ond odd na adeg ble roedd mets fi gyd ar y pryd yn iwsio fo) ma cannabis yn cael gwahanol effaith ar wahanol bobl. Odd na rei odd yn gret ar y stwff, ond odd na rei lle odd o'n cal uffar o effaith negyddol ac odd hi'n reit ddychrynllyd ar brydia i weld nhw fela. Ond ers iwsio fo ma bob un wan jac o mets fi ar y pryd (dim y bobl lan, grefyddol dwi efo rwan :winc: ) wedi newid personoliaeth yn gyfan gwbwl o achos i'r cyffur. Peth rhyfedd i weld yn digwydd, a ddim yn gyfan gwbwl yn rwbath pleserus.

Yn siarad o ran safbwynt meddygol, dwi'm yn meddwl fod o'n syniad da i ddefnyddio fo'n recreational achos yr holl effaith mae'n gael ar yr ymenydd, ond i leddfu poen, wel ma hwnna'n fater gwahanol. OND, os ydi'r gyffraith yn caniatau i bobl ddefnyddio fo ar gyfer pain-relief, wedyn lle mae deud stop? Where do you draw the line ynde. Hmm... un anodd :?

PostioPostiwyd: Mer 20 Ebr 2005 4:14 pm
gan Ifan Saer
Blewyn a ddywedodd: Beth ydy pro cannabis (heblaw am ddefnydd meddygol, mi fedr hwnnw gael ei gyflawni mewn ffurf gwahanol) ?

I roi y cwestiwn ffordd arall, faint o farwolaethau ar y lon bob blwyddyn fyset ti yn dweud sy'n ormod, petae cyfreithloni cannabis yn eu achosi ?


1. Pro? Dos i Amsterdam a deutha fi nad ydyn nhw flynyddoedd o'n blaenau fel cymdeithas ystyrlon, heddychlon, rhyddfrydol. Amhosib, yn fy marn i. Dim gangia' o lager-lawts (ar wahan i ambell sdag-dw, o Brydain, wrth gwrs, natch), dim cwffio a chwdu hyd y stryd, ayyb, ayyb. Dim awyrgylch sy'n drymaidd o drais (gw. unryw dref yng Nghymru / Prydain ar y penwythnos). Jest rhyddid i bawb cael gwneud fel fynno nhw mewn ffordd gyfrifol a chydwybodol. Syml. O ia, a dim pobl fysa byth yn brifo diawl o neb na thorri unryw gyfraith yn cael eu trin fel blydi crims.

2. Wyt ti o ddifri? Wyt ti wir yn meddwl y byddai ffans mwg drwg yn achosi mwy o broblemau ar y ffyrdd na defnyddwyr alcohol? Yn ol dy ddadl di, ymddengys nad yw yr un farwolaeth o ganlyniad i yfed a gyrru o unryw bwys o gwbl. A lle mae'r holl achosion yma o smocars y mwg drwg yn cael damweiniau car felly? Achos - newsflash - mae o ar gael yn reit rhwydd ymhobman fel ag y mae hi...

PostioPostiwyd: Mer 20 Ebr 2005 4:23 pm
gan lleufer
Mae na llawer iawn o bwyntiau diddorol wedi cael eu codi uchod.

Yn bersonol dw i yn amheus ynglyn a'i gyfreithloni oherwydd y pwyntiau isod - ymddiheuraf os ydw i'n ailadrodd pethau sydd wedi cael eu dweud eisioes...

Fel alcohol a nicotine tydy canabis ddim heb ei effeithiau andwyol ar y corff - ydan ni angen mwy o broblemau iechyd yn ein cymdeithasau oherwydd cyffur 'addictive', sydd am roi mwy o straen ar ein gwasanaeth iechyd?

Nid yw yn cael yr un effaith ar bawb - mae rhai yn ymddwyn yn waelach ar canabis.

Nid yw pawb a'r gallu i'w reoli a'i ddefnyddio yn gall - ee, peidio gyrru car ar ganabis (fel mae rhai yn gwneud gydag alcohol) ac ati.

Dw i'n cytuno gyda'r pwynt cafodd ei wneud ynglyn a canabis yn cael effaith andwyol ar ymenydd sydd yn parhau i dyfu. Dw i'n athrawes uwchradd, ac yn siwr bod llawer o ddisgyblion yn barod yn defnyddio canabis (tu allan i'r ysgol), mi fuasai hyn yn lawer haws iddynt petae y cyffyr ar gael yn fwy rhwydd a chyfreithlon.

Beth am y plant sydd wedi cael ei dal yn ysmygu canabis yn ystod oriau ysgol? Tydy problemau ysmygu arferol (nicotine) ymysg plant ysgol yn ddigon.

Ydy rhieni angen y boen ychwanegol o addysgu ei plant a'i hamddiffyn yn erbyn cyffur cyfreithiol ond andwyol arall?

Fallai tasai'n cael ei reoli, ee, ar gael ar gyfer rheolaeth poen yn unig...?

PostioPostiwyd: Mer 20 Ebr 2005 4:48 pm
gan lleufer
Ifan Saer a ddywedodd:1. Pro? Dos i Amsterdam a deutha fi nad ydyn nhw flynyddoedd o'n blaenau fel cymdeithas ystyrlon, heddychlon, rhyddfrydol. Amhosib, yn fy marn i. Dim gangia' o lager-lawts (ar wahan i ambell sdag-dw, o Brydain, wrth gwrs, natch), dim cwffio a chwdu hyd y stryd, ayyb, ayyb. Dim awyrgylch sy'n drymaidd o drais (gw. unryw dref yng Nghymru / Prydain ar y penwythnos). Jest rhyddid i bawb cael gwneud fel fynno nhw mewn ffordd gyfrifol a chydwybodol. Syml. O ia, a dim pobl fysa byth yn brifo diawl o neb na thorri unryw gyfraith yn cael eu trin fel blydi crims.


Ond petai yn cael ei gyfreithloli, mi fysa'n cymeryd blynyddoedd siawns i agweddau cymdeithasol Prydeinig gyrraedd yr un safonau?