Tudalen 3 o 4

PostioPostiwyd: Mer 20 Ebr 2005 5:07 pm
gan Ray Diota
Ifan Saer a ddywedodd:Dos i Amsterdam a deutha fi nad ydyn nhw flynyddoedd o'n blaenau fel cymdeithas ystyrlon, heddychlon, rhyddfrydol. Amhosib, yn fy marn i.


Ges i fy mygio yn Amsterdam. Ma'r holl 'peace man' shit na'n bolycs. Ma'r lle yn llawn losers (on i'n ffito mewn yn neis!) sy'n troi lan ac yn rhy stoned a diog i adel i sorto'u bywyde mas... Os cyfreithloni cyffuriau rhaid ei wneud ym mhob gwlad yn Ewrop, fel nad yw Cymru (e.e.) yn troi'n hafan i drop out stoners o bob rhan o brydain/ewrop...

Mi rydwi o blaid cyfreithlonni Canabis i'w werthu mewn siopau arbennig ar gyfer mynd â fe adre neu ei smygu mewn caffis arbennig ac o blaid cyfreithlonni Coke ac ambell i bilsen ar gyfer eu gwerthu mewn rhyw fath o fferyllfa mewn clybiau nos...

Ond ffwcio cyfreithlonni Sgag. Jyst i pisho'r Sgots ffwr...

PostioPostiwyd: Mer 20 Ebr 2005 5:08 pm
gan Ifan Saer
lleufer a ddywedodd:Ond petai yn cael ei gyfreithloli, mi fysa'n cymeryd blynyddoedd siawns i agweddau cymdeithasol Prydeinig gyrraedd yr un safonau?


Wrth gwrs, ond mae'n rhaid i bopeth gychwyn yn rhywle siawns?

PostioPostiwyd: Mer 20 Ebr 2005 5:21 pm
gan Ifan Saer
Ray Diota a ddywedodd:Ges i fy mygio yn Amsterdam.


Do'n i ddim yn trio cynnig fod y lle yn baradwys heb unryw dor-cyfraith. Mi gafodd fy waled i ei bigo o'n mhocad, ond wnaeth hynny ddim newid fy argraff gyffredinol o'r lle o'i gymharu â dinas Brydeinig o'r un maint.

PostioPostiwyd: Mer 20 Ebr 2005 9:48 pm
gan Rhodri Nwdls
Dyma'r drafodaeth arall gafwyd ar y maes am canabis gyda llaw.

Ti'n son am rieni'n gorfod mynd drwy'r boen o addysgu eu plant os caiff canabis ei gyfreithloni - ydyn nhw ddim yn gorfod gwneud hyn yn barod gan fod canabis mor hawdd i gael gafael arno rwan?

Hwn ydi'r pwynt sgen i: cyfreithlonwch canabis a bydd hanner incwm crwcs Prydain yn cael ei ddileu mewn ennyd. Bydd y canabis fydd ar gael yn lefelau cryfder saffach (neu o leia bydd yn fwy rheoledig) ac yn cynnwys llai o rwtsh. Bydd y llywodraeth yn gneud yr arian yn lle'r gangstars. Bydd llai o dealers o amgylch y lle gan fod cyffuriau Class A yn eu natur yn bethau sydd a defnydd llai cyson na hash, felly llai o arian i'w wneud.

Dwi'n cytuno fod smocio hash yn gallu chwyddo problemau meddyliol, os mae nhw'n bodoli'n barod, ond os mae pobol am smocio fo beth bynnag ydi hi ddim yn well cael addysg a gwybodaeth gall amdano fo yn hytrach na thrio esgus fod hwn ddim yn rhan o gymdeithas heddiw?

Mae fel y newyddion fod y gyfraith rwan yn codi Madarch Hud o fod yn Class C (pan ma wedi'i drin) i fod yn gyffur Class A - yr un peth a crac. Rhywbeth sy'n tyfu yn y cae tu ol i;ch ty chi, yr un lefel o berygl i gymdeithas a crac. Ffac, faswn i'n codi alcohol i fod yn gyffur Class A os mae dyna ydi'r criteria ma'n nhw'n ddefnyddio.

Faint o bobol sydd wedi bod yn wrth-gymdeithasol (a dwi'm yn son am fethu cael sgwrs am eu bod nhw'n chwerthin gormod) ar fadarch hud?

Ydi gwneud nhw'n Class A yn mynd i sdopio bobol rhag mynd i'r cae a byta nhw? Nacdi, mae o mond yn crimnialeiddio rhywbeth gymharol ddiniwed - a dewis personol unigolyn.

Ond pwnc am edefyn arall di hwnna debyg...

PostioPostiwyd: Mer 20 Ebr 2005 11:19 pm
gan dafydd
Mae angen dad-griminaleiddio pob cyffur - ond os oes un peth gwaeth na cyffuriau yn cael eu gwerthu ar y farchnad 'ddu' yna cyffuriad yn cael eu gwerthu mewn marchnad 'rhydd' fyddai hynny.

Mi ddylai'r cyffuriau anghyfreithlon cael ei trin yn union fel unrhyw cyffur (yn yr ystyr feddygol) arall ac yn cael eu rheoli yn yr un modd. Mi fyddai'n dod a'r cyffuriau seicoactif 'hanesyddol' - sef y rhai oedd yn bosib ei cynhyrchu cyn dyfodiad meddygaeth fodern - o dan yr un rheolaeth.

Mae'n wir fod rhai doctoriaid wedi bod yn euog o gor-ddefnyddio o rhai cyffuriau caethiwus fel diazepam er enghraifft ond mae hynny o leia yn fater o bolisi cyhoeddus yn hytrach na grym y 'gwthiwr'.

Ynglyn a canabis ei hun, fe ddylai fod gan unrhywun hawl i'w dyfu ar gyfer defnydd personol ond nid ei baratoi ar gyfer gwerthu (tebyg i'r sefyllfa gyda alcohol). Ond beth sydd wir angen yw llawer mwy o ymchwil ar sut i ddefnyddio'r elfennau buddiol yn y planhigyn i greu cyffuriau feryllol.

Hoffwn i weld y math o bolisiau mae Transform yn ei hargymell - mae yna lawer o ddeunydd da iawn ar ei gwefan am y sefyllfa ar hyn o bryd a cynigion i ddatrys y broblem.

PostioPostiwyd: Iau 21 Ebr 2005 3:59 pm
gan Cwlcymro
Mi fyswn i ddigon hapus i bobl fwyta ei Caceni Gofodol a'i Siocled Poeth Lledrithiol. Ond ma smocio tabacco yn ddigon o broblem ar y funud heb adio smocwyr canabis hefyd.
Be am neud deal. Cyfreithlioni cannabis, ond criminalaisio (be di hwnnw yn Gymraeg?) smocio tabaco a cannabis mewn unrhywle cyhoeddus.

PostioPostiwyd: Sad 23 Ebr 2005 11:26 am
gan Hogyn o Rachub
Diolch i bawb am eu barn ac am ateb y pol. Oedd ein cyflwyniad yn warthus, fodd bynnag!

(Ymlaen a'r ddadl!)

PostioPostiwyd: Maw 24 Mai 2005 6:18 pm
gan Blewyn
Ifan Saer a ddywedodd:
Blewyn a ddywedodd: Beth ydy pro cannabis (heblaw am ddefnydd meddygol, mi fedr hwnnw gael ei gyflawni mewn ffurf gwahanol) ?

I roi y cwestiwn ffordd arall, faint o farwolaethau ar y lon bob blwyddyn fyset ti yn dweud sy'n ormod, petae cyfreithloni cannabis yn eu achosi ?


1. Pro? Dos i Amsterdam a deutha fi nad ydyn nhw flynyddoedd o'n blaenau fel cymdeithas ystyrlon, heddychlon, rhyddfrydol.<snip>

Gallaf ddweud yr un peth am Norwy, Denmark, Y Swisdir......Mae problemau Prydain i'w wneud efo cymeriad y bobl, ddim cannabis.
2. Wyt ti o ddifri? Wyt ti wir yn meddwl y byddai ffans mwg drwg yn achosi mwy o broblemau ar y ffyrdd na defnyddwyr alcohol?

Wrth gwrs na. So what ? Ers pryd mae problem efo un peth yn reswm da i gynyddu problem efo peth arall ?
Yn ol dy ddadl di, ymddengys nad yw yr un farwolaeth o ganlyniad i yfed a gyrru o unryw bwys o gwbl.

A sut yn union wnest ti fedru'r neidiad rhesymegol yna ? Wnes i ddim dweud y fath beth.
A lle mae'r holl achosion yma o smocars y mwg drwg yn cael damweiniau car felly? Achos - newsflash - mae o ar gael yn reit rhwydd ymhobman fel ag y mae hi...

Ti'n meddwl fysa'r un faint yn cael ei ddefnyddio/werthu unwaith fysa'r cwmniau dope newydd yn dechrau ei farchnata i bobl ifainc ? Oes ots gen ti am y damweiniau a salwch meddyliol sy'n debyg o ddigwydd o'r herwydd ?

PostioPostiwyd: Maw 07 Meh 2005 3:36 pm
gan Dr Gwion Larsen
Norman a ddywedodd:"Na ddylid" > Mi eith yn ddryd ac yn wan !
Bols, oni'n trafod hyn efo yr hen Meu Jones heddiw.
Drud - na, meddylia am danai. Pan ma gêr yn gal ei smyglo o cuba ma'r boi sy'n mynd a fo i Sbaen isho cut, y boi syn dreifio fo o sbaen i Ffrainc, o Ffrainc i Brydain, ac yna heini sydd yn gwerthu fo ym Mhrydain. Os buasa fo'n ddrud yna bydd y farchnad ddu dal yna i werthu'r stwff yn anghyfreithlon ar bris rhatach fel sydd yna efo siagrets ym Mhrydain

Gwan - na, dos i amsterdam ma'r stwff gei di'n fana yn gry. Y stwff ym Mhrydain sy'n wan efo shit-loads o plastic a faliwms a oxo's. Alli di'm neud ganj yn wanach full-stop. Ac eto os buasa fo'n wan buasa yna dal farchnad ddu

Gobeithio bod hyn yn neud sens :?

PostioPostiwyd: Mer 22 Meh 2005 2:31 pm
gan sanddef
Norman a ddywedodd:"Na ddylid" > Mi eith yn ddryd ac yn wan !

Pwy a wyr? Efallai byddai normaleiddio safle cannabis yn codi safonau da yn ei sgil. Mae´r hyn ti´n smygu yng Nghymru yn ffiaidd dros ben o´i gymharu i´r hyn ar gael mewn rhai gwledydd ar y cyfandir.