Tudalen 4 o 4

PostioPostiwyd: Iau 07 Gor 2005 10:55 pm
gan bibopalwla
Dr Gwion Larsen a ddywedodd:Gwan - na, dos i amsterdam ma'r stwff gei di'n fana yn gry. Y stwff ym Mhrydain sy'n wan efo shit-loads o plastic a faliwms a oxo's. Alli di'm neud ganj yn wanach full-stop. Ac eto os buasa fo'n wan buasa yna dal farchnad ddu

Gobeithio bod hyn yn neud sens :?


Na, dim iotyn o sens. Ma'r shit sy'n cael ei ddefnyddio heddi' ym Mhrydain cymaint yn gryfach na'r stwff o'dd yn ca'l ei smygu gan ein rhieni yn y chwech a'r saithdege nes bod gwyddonwyr yn gweud ei fod, i bob pwrpas, bron yn gyffur hollol wahanol. Alli di'm ei neud e'n wanach wir. Shyt yp!

Ma'r dadleuon o blaid cyfreithloni canabis jyst yn blydi loopy hollol. 'Dyw e ddim yn gyffur sy'n hala pawb yn hapus ac i garu'i gilydd. Ma' alcohol yn effeithio fel 'na ar rai pobol. Ma' canabis yn hala rhai pobol yn wallgo', yn 'aggressive', hala nhw i ddwyn etc a ma' 'na oblygiade difrifol i iechyd y meddwl. Cwestiwn o 'scale' yw e. Petai cymaint o ganabis yn cael ei gonsiwmo a sydd o alcohol, bydde ffwcin mess 'ma. End of.

A ma' lot o smygwyr dope yn mynd ar yn wic i. Ma' nhw'n honni bod yn bobol ryddfrydol eangfrydig sy'n caru'u brodyr a'n poeni am eu cyd-ddyn. Ie? Wel stopiwch smoco dope 'de achos ma'r dioddefaint sy'n digwydd er mwyn i chi ffycyrs hunanol ga'l eich 'hit' yn enfawr. Tro nesa' byddwch chi'n llanw'ch lyngs a'r stwff ac yn cyflymu'ch taith at 'mental breakdown', cymwch eiliad i feddwl am y ffermwyr dirifedi sy'n ca'l eu trin fel shit i ga'l y stwff i chi.

A meddyliwch am y milwyr yn Iran sy'n rhewi'u cocie off am fisoedd heb weld eu teuluoedd yn trial cadw'r diwydiant dan reolaeth. Supply and demand. Chi'n cadw'r supply'n ddigon uchel i gadw'r dioddefaint hyn i fynd.

A wedyn, saethwch eich hunen. Wancyrs.

PostioPostiwyd: Gwe 08 Gor 2005 3:31 am
gan Hen Rech Flin
Nid cyfreithloni neu anghyfreithloni ydyw’r pwnc pwysicaf.

Wedi gweithio ym maes iechyd meddwl ers 30 mlynedd rwy'n GWYBOD bod canabis yn ffwcio meddyliau pobl, ac mae'r cyngor gorau yw peidio â'i ddefnyddio.

Rwyf hefyd yn gwybod mae "agwedd" yr ieuanc yw - O! Mae o'n Rhech rhy Hen i wybod dim am ganabis (a hyn gan blant dilladlawn yn gwrando ar Rolff Harris yng Nglastonbury :!: )

Yr hyn sydd ei angen efo POB cyffur sy'n caethiwo, boed cyfreithiol neu anghyfreithlon, yw cymorth i ddatod y rhwymau.

Yr hyn sy'n wast o amser a bywyd yw "brandio" defnyddwyr cyffur yn droseddwyr.

Rhaid derbyn, yn y byd sydd ohoni, bod rhai yn camddefnyddio cyffuriau cyfreithlon ac anghyfreithlon .

Wrth roi bob cymorth meddygol i'r sawl sydd am roi'r gorau i'w caethiwed, rhaid derbyn bod eraill tu hwnt i bob cymorth, a gadael iddynt farw (gyda ddigniti) yn eu cawl eu hunain heb eu beirniadu.

PostioPostiwyd: Gwe 08 Gor 2005 7:25 am
gan HenSerenSiwenna
Sili a ddywedodd:Oh brofiad personnol (dwi rioed wedi defnyddio cannabis yn y mywyd ond odd na adeg ble roedd mets fi gyd ar y pryd yn iwsio fo) ma cannabis yn cael gwahanol effaith ar wahanol bobl. quote]


Ydi ac mae hyn yr un peth am pob cyffur. Hefyd, mae hi'n bosib ddod yn gaeth i lawer iawn mwy o bethau, gan gynnwys caffeine sy'n achosi ich ymenydd shrincio. Dyma pam cewch cur pen pan ydych ar come-down, achos bod y gwaed yn llifo nol mewn ir ymenydd gan achosi iddi ehangu unwaith eto. :ofn:

Mae rhai yn honni fod na addictions physiological a addiction psychological....ond yn wir, gan mai dim ond bag o cemegion da ni gyd, mae psychological addiction jest yn enw arall am physiological addiction di nhw heb gweithio allan eto pa cemegion sy'n achosi'r addiction. :rolio:

Yn gryno, mae'n debyg bo na rhai pobl yr un mor gaeth i alcohol a rhywun ar heroin/ cocaine. Rhai eraill yn gallu rheoli ei ddefnydd o gyffuriau 'go-iawn' a byw bywyd normal (cyn belled bo gennyn nhw'r pres de). I'r bobl yma y peryg fwya yw i nhw cael ei dal neu iddyn nhw brynnu batch drwg.....fysa'r ddau beth yma yn gallu diflannu os oedd na system cyfreithlon a all rheoleiddio'r cynhyrchiad, cyflenwad a'r dosbarthiad. :)

PostioPostiwyd: Gwe 08 Gor 2005 9:31 am
gan mwgdrwg
Free the weed!

PostioPostiwyd: Gwe 08 Gor 2005 2:15 pm
gan Fflamingo gwyrdd
Dr Gwion Larsen a ddywedodd:dos i amsterdam


Neu Christiana - sy'n 'dalaith' (y ffiniau'n glir) o fewn Copenhagen lle nad yw cyfreithiau gweddil y wlad yn bodoli... Defnyddiwch ddychymyg :rolio:

PostioPostiwyd: Maw 12 Gor 2005 3:36 pm
gan sanddef
Fflamingo gwyrdd a ddywedodd:
Dr Gwion Larsen a ddywedodd:dos i amsterdam


Neu Christiana - sy'n 'dalaith' (y ffiniau'n glir) o fewn Copenhagen lle nad yw cyfreithiau gweddil y wlad yn bodoli... Defnyddiwch ddychymyg :rolio:


Nes i fyw yno gynt. Os ti'n mynd yno dweud hylo oddi wrthyf i Chris, Tam a Grev Lyhne o Ooh Sticky (Byddant yn chwilio pwl yn y Manefiskeren). Dim ond un clerwr o Gymru sy'n cael ei nabod yno...fi!

PostioPostiwyd: Iau 01 Rhag 2005 4:50 pm
gan elliboi
Mae sawl cyfeiriad wedi cael ei wneud yn y drafodaeth yma am effaith beryglus mwg drwg ar yr ymenydd. Mae llawer o'r ymchwil wyddonol a meddygol diweddaraf yn codi sawl cwestiwn ynghylch y gred yma. Mae erthyglau lu yn New Scientist rhwng Mawrth a Gorffennaf 2005 yn trafod yr ymchwil.

PostioPostiwyd: Sul 04 Rhag 2005 7:19 am
gan Blewyn
Pan on i'n gweithio ar y rig tyllu Neddrill 6 yn mor y Gogledd, mi oedd yna weithredwr craen a dderbynodd slaban o ganabis yn y post oddiwrth ei wraig ar y lan. R'on i wedi bod yn tybio pam oedd o wastad yn edrych mor 'bleary'. Tawaeth, mi ddarganfuwyd a mi gafodd y sac y funud honno, a r'oedd o ar y helicopter cyntaf yn ol i'r lan, a'r dol.

Oes'na rhywun yma yn anghytuno a beth ddigwyddodd iddo ?

PostioPostiwyd: Iau 27 Ebr 2006 9:29 pm
gan blaidd drwg
Ym, dwi'n hen, a dwi'n defnyddio canabis a dim cyffur arall, blaw alcohol. Mae cannabis yn gwneud llawer llai o niwed, a dach chi ddim yn cael penmaenmawr. Jest profiad personol, oce? :) :)

PostioPostiwyd: Gwe 28 Ebr 2006 6:44 pm
gan Dr Gwion Larsen
Yn wir, eith o ddim yn wan fel mae Norman yn dweud achos mae o'n wan rwan yn llawn ketamine a valumes a'r arian yn mynd i'r bobol anghywir, a'r GIC yn gorfod pigo'r bil i fyny. Yr unig ateb ydi ei wneud yn gyffyr sy'n cael ei reoli, a'i drethu. Mai hefyd yn bwysig diffinio rhwng canabis yr herb ei hun, a "solid" y stwff brown sy'n llawn OXO, a valumes.

17% eisiau ei gadw yn anghyfreithlon, mandad i'r llywodraeth ei gyfreithloni?

No Victim - No Crime