Tudalen 1 o 4

Cwis Comiwynyddiaeth

PostioPostiwyd: Sul 15 Mai 2005 11:19 am
gan pogon_szczec
Faint ydych chi'n gwybod am Gomiwynyddiaeth?

http://www.bcaplan.com/cgi/museum1.cgi

PostioPostiwyd: Sul 15 Mai 2005 11:52 am
gan Chwadan
Traethawd gwleidyddiaeth wsnos yma - Polisi Tramor y Sofiets rhwng y ddau ryfel byd - lly nai neud o dydd Mawrth ar ol gneud y darllen i gyd :winc:

PostioPostiwyd: Sul 15 Mai 2005 11:56 am
gan Selador
Mae'n anhygoel faint mor anwybodus yda ni pan mae'n dwad i wybodaeth am erchyllterau'r comiwnyddion. Roeddwn i'n meddwl am flynyddoedd eu bod nhw'n bobl llawer fwy moesol ac uwch na ni, ni wnaeth fy athrawes hanes yn yr ysgol son am ddim o'r pethau ofnadwy wnaeth y comiwnyddion. Roedd hi'n awgrymu mai camgymeriadau a camddealtwriaethau oedd yn gyfrifol am y nifer o farwolaethau, a'r tywydd gafodd y bai am y newyn.
Fe ddylid addysgu plant menw erchyllterau gwahanol regimes o gwmpas y byd, er mwyn iddynt ddeall mai nid ein ffordd lwcus iawn ni o fyw yw'r norm.

PostioPostiwyd: Sul 15 Mai 2005 11:59 am
gan Hedd Gwynfor
Credu mae dadl gref yn erbyn sustemau rheoli unbeniaethol yw hwn yn hytrach na dadl yn erbyn comiwnyddiaeth fel syniadaeth.

Unben oedd Stalin, Hitler, Mao Zedong, Pol Pot ayb. ayb. ac roedd mwyafrif o'u gweithredoedd yn ffiaidd!

Mae hwn yn dangos mae democratiaeth yw'r ffordd mwyaf teg o lywodraethu.

PostioPostiwyd: Sul 15 Mai 2005 12:00 pm
gan Chwadan
Selador a ddywedodd:Fe ddylid addysgu plant menw erchyllterau gwahanol regimes o gwmpas y byd, er mwyn iddynt ddeall mai nid ein ffordd lwcus iawn ni o fyw yw'r norm.

Dylid, ond nid ar draul theori gwleidyddol. Ma angen dangos bo ni'n lwcus bo ni ddim yn cael ein lladd gan John Prescott a'i heavies, ond ma'n bwysig egluro pam bo nhw'm yn digwydd yn y Gorllewin - pa syniada ac amgylchiada sy'n caniatau iddyn nhw ddigwydd ac ati.

PostioPostiwyd: Sul 15 Mai 2005 12:31 pm
gan Realydd
Selador a ddywedodd: ni wnaeth fy athrawes hanes yn yr ysgol son am ddim o'r pethau ofnadwy wnaeth y comiwnyddion. Roedd hi'n awgrymu mai camgymeriadau a camddealtwriaethau oedd yn gyfrifol am y nifer o farwolaethau, a'r tywydd gafodd y bai am y newyn.
Fe ddylid addysgu plant menw erchyllterau gwahanol regimes o gwmpas y byd, er mwyn iddynt ddeall mai nid ein ffordd lwcus iawn ni o fyw yw'r norm.


Cytuno a'r ail baragraff a dwi'n meddwl fod o'n gywilyddus y 'spin' oedd yn cael ei roi gan dy athrawes. Dyma'r perygl os buasai gwleidyddiaeth yn cael ei ddysgu yn ein ysgolion.

PostioPostiwyd: Sul 15 Mai 2005 12:36 pm
gan Chwadan
Realydd a ddywedodd:
Selador a ddywedodd: ni wnaeth fy athrawes hanes yn yr ysgol son am ddim o'r pethau ofnadwy wnaeth y comiwnyddion. Roedd hi'n awgrymu mai camgymeriadau a camddealtwriaethau oedd yn gyfrifol am y nifer o farwolaethau, a'r tywydd gafodd y bai am y newyn.
Fe ddylid addysgu plant menw erchyllterau gwahanol regimes o gwmpas y byd, er mwyn iddynt ddeall mai nid ein ffordd lwcus iawn ni o fyw yw'r norm.


Cytuno a'r ail baragraff a dwi'n meddwl fod o'n gywilyddus y 'spin' oedd yn cael ei roi gan dy athrawes. Dyma'r perygl os buasai gwleidyddiaeth yn cael ei ddysgu yn ein ysgolion.

O ran diddordeb, pa mor bell sa ti'n mynd a'r ddadl yma? Ydi'n werth dysgu gwleidyddiaeth fel pwnc Lefel-A neu radd neu dim ond gwrthwynebu dysgu gwleidyddiaeth fel rhan o addysg fugeiliol/gymdeithasol wyt ti?

PostioPostiwyd: Sul 15 Mai 2005 12:49 pm
gan Cwlcymro
42.5% - yr unig reswm gesi sgor mor 'uchal' oedd i fi drio dewis yr opsiwn mwya erchrydus ym mhob cwestiwn.

Ma pawb yn gwybod cyfrola am erchylldra Hitler, ac yn clywed ychydig am Pol Pot a Ho Chi Min, ond dyda ni'n clywed dim bron am rai Stalin. Ond dwi'n cytuno efo Hedd ma dangos erchylldra unbeniaeth ydy hyn, dim comiwnyddiaeth fel ideoleg.

PostioPostiwyd: Sul 15 Mai 2005 12:52 pm
gan Realydd
Dwi ddim yn rhy siwr ond yn sicr rhaid cael cydbwysedd os yn dysgu pynciau fel hanes a gwleidyddiaeth, rhaid i'r ddwy farn gael eu cyflwyno neu fel arall brainwashing sy'n digwydd.

PostioPostiwyd: Sul 15 Mai 2005 1:02 pm
gan Realydd
Cwlcymro a ddywedodd:Ond dwi'n cytuno efo Hedd ma dangos erchylldra unbeniaeth ydy hyn, dim comiwnyddiaeth fel ideoleg.


Rydych chi yn y sefyllfa ffodus o erioed fod wedi gorfod byw dan system gomiwnyddol. Mae'r ideoleg yma wedi arwain at erchyllderau ac yn dangos y problemau pan rydych yn gadael i wleidyddion reoli adnoddau yn lle'r marchnadoedd.