Cwis Comiwynyddiaeth

Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall.
Rheolau’r seiat
Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Cwlcymro » Sul 15 Mai 2005 1:11 pm

Realydd a ddywedodd:Rydych chi yn y sefyllfa ffodus o erioed fod wedi gorfod byw dan system gomiwnyddol. Mae'r ideoleg yma wedi arwain at erchyllderau ac yn dangos y problemau pan rydych yn gadael i wleidyddion reoli adnoddau yn lle'r marchnadoedd.


Dydwi ddim eisio byw dan system gomiwnyddol. Dwi ddim yn gweld da yn dod o gael system gwbwl ang-nghyflafol.

Ma'r ideoleg yn deg, y broblem ydi fod dilyn yr ideoleg yn rhoi gormod o bwerau yn nwylo un, neu grwp bychan, o bobl. Yn anffodys does gan 99.99% o bobl ddim y gallu i wrthod y temptasiwn o or-ddefnyddio y pwer maen't yn ei gael. Mi welis i'r ffilm "The Interpreter" neithiwr, ac er ma gwan iawn oedd hi, mi wnaetha nhw'r pwynt fod pob arweinydd sydd yn cymeryd lle unben afiach yn cael ei gweld fel arwr y bobl, ond fod bron iawn pob un yn troi yn unben gwaeth na'r un cynt. Y rheswm amlwg ydi fod pawb yn mwynhau pwer, ac os oes genti y math o bwer sydd gan unben ma'r mwyafrif helaeth yn mynd i'w gamddefnyddio i sicrhau fod o'n gallu aros mewn pwer.

Mi laddodd Stalin gymaint am ei fod o'n paranoid o golli ei bwer, dim achos fod ideoleg Comiwnyddol yn deud wrtho wneud.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Chwadan » Sul 15 Mai 2005 1:12 pm

Realydd a ddywedodd:
Cwlcymro a ddywedodd:Ond dwi'n cytuno efo Hedd ma dangos erchylldra unbeniaeth ydy hyn, dim comiwnyddiaeth fel ideoleg.


Rydych chi yn y sefyllfa ffodus o erioed fod wedi gorfod byw dan system gomiwnyddol. Mae'r ideoleg yma wedi arwain at erchyllderau ac yn dangos y problemau pan rydych yn gadael i wleidyddion reoli adnoddau yn lle'r marchnadoedd.

Sut ma cyfiawnhau'r holocost, Chile o dan Pinochet, Iraq o dan Saddam ac ati? Ti'n cyrraedd y fan ym mhob unbeniaeth lle mae comiwnyddieth a ffasgaeth yn debyg iawn i'w gilydd - paranoia yn rhemp a wedyn ma miloedd, os na miliynau, yn cael eu llofruddio. Dio'm byd i neud efo'r farchnad: doedd Stalin ddim yn lladd pobl achos fod na excess supply o weithwyr :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Realydd » Sul 15 Mai 2005 1:36 pm

Sut ma cyfiawnhau'r holocost, Chile o dan Pinochet, Iraq o dan Saddam ac ati?


Dwi ddim yn gwybod gan fuaswn i ddim yn gallu. Roeddwn i'n cytuno hefo disodli unben fel Saddam yn Irac (yn wahanol i nifer ar y maes oedd am adael iddo fod). Dwi'n siwr byddai eithafwyr yn gallu cyfiawnhau erchylldra fel yr holocaust, Chile.

Chwadan ti i'w weld yn cael trafferth mawr derbyn erchyllderau comiwnyddiaeth. Nid yw'r ffaith fod erchyllderau wedi digwydd mewn llefydd eraill yn gwneud erchyllderau comiwnyddiaeth yn fwy derbyniol.

Sut ti'n gallu diddanu'r syniad "ddim byd i'w wneud hefo marchnad?" pan yn ystyried erchyllderau fel newyn?
Realydd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1779
Ymunwyd: Maw 08 Meh 2004 1:20 pm

Postiogan Chwadan » Sul 15 Mai 2005 1:54 pm

Realydd a ddywedodd:Chwadan ti i'w weld yn cael trafferth mawr derbyn erchyllderau comiwnyddiaeth.

Wyt ti ddim yn cael trafferth derbyn y ffaith fod oddeutu 27m wedi cael eu llofruddio gan Stalin? :ofn: Dwi'n cael trafferth derbyn llofruddiaeth o unrhyw fath, heb son am 12m o dan Hitler a 27m o dan Stalin :?

Realydd a ddywedodd:Nid yw'r ffaith fod erchyllderau wedi digwydd mewn llefydd eraill yn gwneud erchyllderau comiwnyddiaeth yn fwy derbyniol.

Dwi'm yn deud - y broblem sy gennai efo dy ddadl ydi dy fod ti'n cymryd yn ganiataol fod na gysylltiad causal rhwng llofruddiaethau Stalin a'r ffordd roedd ei lywodraeth yn rheoli'r farchnad, h.y. ma Stalin yn coelio'n gryf mewn cynllunio canolog felly mae Stalin yn mynd i fynd ati i ladd miliynau o bobl (nid am farwolaethau achos newyn dwi'n son yma, gyda llaw, ond am y llofruddiaethau gwaed oer).

Dwi'm yn ffan o gomiwnyddiaeth ddim mwy na dwi'n ffan o ffasgaeth, ond siawns na nei di'm gwadu mai unbeniaeth eithafol ac nid chwith/dde ydi'r ffactor sy'n cyfrannu at filiynau o bobl yn cael eu llofruddio gan eu llywdoraeth? Tydio'n berffaith amlwg mai paranoia ydi'r causal factor?
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Realydd » Sul 15 Mai 2005 2:48 pm

Chwadan a ddywedodd:Dwi'm yn deud - y broblem sy gennai efo dy ddadl ydi dy fod ti'n cymryd yn ganiataol fod na gysylltiad causal rhwng llofruddiaethau Stalin a'r ffordd roedd ei lywodraeth yn rheoli'r farchnad, h.y. ma Stalin yn coelio'n gryf mewn cynllunio canolog felly mae Stalin yn mynd i fynd ati i ladd miliynau o bobl (nid am farwolaethau achos newyn dwi'n son yma, gyda llaw, ond am y llofruddiaethau gwaed oer).


Gellid gweld o CAP yr UE cymaint o fethiant yw trio rheoli marchnadoedd gan wleidyddion - ceir gor-gynhyrchu neu ddim digon o gynhyrchu. Gwell gadael y farchnad i'r farchnad.
Realydd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1779
Ymunwyd: Maw 08 Meh 2004 1:20 pm

Postiogan Emrys Weil » Sul 15 Mai 2005 3:48 pm

Mae hyn yn atgoffa fi o beth ddywedodd George Orwell yn rhywle (Down and Out in Paris and London, dwi'n meddwl), rhywbeth fel "the best argument against Communism as against Christianity is not so much its teachings as its adherents."
Pan gyrhaeddaswn ganol gyrfa'n bywyd,
Mewn coedwig dywell, cefais i fy hunan;
Oherwydd ynddi'r union ffordd gollasid.
Rhithffurf defnyddiwr
Emrys Weil
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 410
Ymunwyd: Gwe 16 Gor 2004 8:02 pm

Postiogan pogon_szczec » Sul 15 Mai 2005 10:46 pm

Chwadan a ddywedodd:Dwi'm yn deud - y broblem sy gennai efo dy ddadl ydi dy fod ti'n cymryd yn ganiataol fod na gysylltiad causal rhwng llofruddiaethau Stalin a'r ffordd roedd ei lywodraeth yn rheoli'r farchnad, h.y. ma Stalin yn coelio'n gryf mewn cynllunio canolog felly mae Stalin yn mynd i fynd ati i ladd miliynau o bobl (nid am farwolaethau achos newyn dwi'n son yma, gyda llaw, ond am y llofruddiaethau gwaed oer).


Doedd neb o dan Hitler, Mussolini a Pinochet yn marw oherwydd prinder bwyd.

Ond bu farw milynau yn yr Wcren, Cambodia a Gogledd Corea oherwydd newyn.

Felly mae cysylltiad uniongyrchol rhwng 'rheoli'r farchnad' a phobl yn cael eu lladd.
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan Cwlcymro » Llun 16 Mai 2005 9:23 am

pogon_szczec a ddywedodd:Doedd neb o dan Hitler, Mussolini a Pinochet yn marw oherwydd prinder bwyd.

Ond bu farw milynau yn yr Wcren, Cambodia a Gogledd Corea oherwydd newyn.

Felly mae cysylltiad uniongyrchol rhwng 'rheoli'r farchnad' a phobl yn cael eu lladd.


Aros funud.
Os oedd y newyn yn ganlyniad o fethiant y system o reoli'r farchnad yna dim "echylldra" a llofruddiaetha oedd o, ond methiant Stalin i roi digon o adnodda mewn ffermio.

Ond os oedd y newyn, fel oni wedi ddeall, wedi ei greu yn fwriadol gan Stalin, yna dim methiant yr ideoleg o reoli'r farchnad oedd o, ond echylldra unebn sydd yn barod i weld miliyna o'i bobl yn marw, ac i fwrdro miliyna mwy, i lefddau y paranoia o golli ei bwer.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dan Dean » Llun 16 Mai 2005 12:20 pm

Pogon a ddywedodd:Faint ydych chi'n gwybod am Gomiwynyddiaeth?

http://www.bcaplan.com/cgi/museum1.cgi

Dim mwy ar ol y cwis yna :rolio:

Felly comiwnyddiaeth di'r bai? Be am yr echylltra GWRTH gomiwnyddol sydd wedi digwydd? Bai comiwnyddion oedd hwnnw? Ac rwyf isio pwyntio allan roedd yr Undeb Sofietaidd yn cael ei redeg ar ffurf "state-capitalist", nid mewn ffurf gomiwnyddol na sosialaidd.
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan Realydd » Mer 18 Mai 2005 12:59 pm

DanDean- wyt ti'n trio osgoi trafod erchyllderau comiwnyddol? Pam?
Realydd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1779
Ymunwyd: Maw 08 Meh 2004 1:20 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Wleidyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 15 gwestai

cron