Tudalen 3 o 4

PostioPostiwyd: Mer 18 Mai 2005 1:07 pm
gan Cwlcymro
Realydd, anghofia am Dan Dean, os dio ddim isho trafod, does dim rhaid iddo fo.

Esbonia i fi sut ma'r ideoleg gomiwnyddol arweiniodd at echylldra Stalin a dim jusd esiampl arall (fel Hitler, Saddam, Pol Pot, Mussolini) o'r system unben yn rhoi gormod o bwer i un dyn sydd yn paranoid o'i golli.

PostioPostiwyd: Mer 18 Mai 2005 1:13 pm
gan Mr Gasyth
pogon_szczec a ddywedodd:Doedd neb o dan Hitler, Mussolini a Pinochet yn marw oherwydd prinder bwyd.


o iawn felly, ma hanes wedi gwneud cam efo'r arweinwyr dyngarol asgell dde yma felly do?

PostioPostiwyd: Mer 18 Mai 2005 6:28 pm
gan Dan Dean
Realydd a ddywedodd:DanDean- wyt ti'n trio osgoi trafod erchyllderau comiwnyddol? Pam?

:?
Nadw sdi, tria ddallt. Deud na dim comiwnyddiaeth fel syniadaeth dwi.

PostioPostiwyd: Mer 18 Mai 2005 6:30 pm
gan Realydd
Os yw pobl yn talu mwy a mwy o drethi trwy'r amser yna mae'r llywodraeth yn mynd yn fwy pwerus gan fod pobl yn treulio mwy o'u amser yn gweithio i'r llywodraeth nac iddyn nhw eu hunain. Wrth i lywodraeth fynd yn fwy pwerus yna mae'r unigolion sy'n rhedeg y llywodraeth yn mynd yn fwy pwerus ac felly mae eu penderfyniadau yn cael llawer mwy o ddylanwad ar fywydau pobl. Os nad oes gen ti system ddemocrataidd gall er mwyn cael gwared ar y llywodraeth yn rhwydd yna mae gen ti broblemau.

PostioPostiwyd: Mer 18 Mai 2005 6:32 pm
gan Realydd
Dan Dean a ddywedodd:Nadw sdi, tria ddallt. Deud na dim comiwnyddiaeth fel syniadaeth dwi.


Falle fod y syniadaeth yn ddiniwed ond mewn realiti mae hanes yn dweud y cyfan am lwyddiant y syniadaeth in practice.

PostioPostiwyd: Mer 18 Mai 2005 6:46 pm
gan Ramirez
Dwi'n meddwl fod Chwadan wedi codi'r pwynt pwysicaf,

Chwadan a ddywedodd:Ti'n cyrraedd y fan ym mhob unbeniaeth lle mae comiwnyddieth a ffasgaeth yn debyg iawn i'w gilydd - paranoia yn rhemp a wedyn ma miloedd, os na miliynau, yn cael eu llofruddio.


boed rhywun yn unben yn enw comiwnyddiaeth new yn enw ffasgaeth, tydio ddim yn gwneud gwahaniaeth. dylia unrhyw un sy'n honni fod ganddo gymaint o ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth a Realydd allu gwel fod petha ddim mor syml a chwith a dde - os oes rhaid rhoi sbectrwm, mae o'n fwy o gylch, lle mae'r 'extremes' yn cyfarfod.

mae dechrau edefyn o dan y teitl yma yn hynod gamarweiniol i ddechrau arni, gan fod 'comiwnyddiaeth' erioed wedi bod yn weithredol, mewn gwirionedd. yr unig beth ydi'r cwis yna ydi rhywbeth bach i ddangos yr erchyllterau a gyflawnwyd gan unbeniaid a oedd mewn pwer YN ENW comiwnyddiaeth, ond nad oeddent yn ei weithredu. os ti'n sbio arno fo fela, mae o jysd yn esgus hurt i gael paentio'r chwith i gyd efo'r un brwsh, gan esgusodi'r dde, er fod eithafwyr y dde cyn waethed a'r chwith.

parha comiwnyddiaeth i fod yn ideoleg, achos does na neb wedi llwyddo i'w weithredu'n iawn. Realydd, wyt ti wir yn meddwl fod pawb sy'n dadlau yn dy erbyn yn gobeithio am utopia comiwnyddol? mae'r freuddwyd yna wedi diflannu bellach, fwy na heb, a Pogon, dwn i ddim be oeddet ti'n drio gyflawni efo linc i'r cwis - profi ein bod ni i gyd yn gomiwnyddion rhonc a ddim yn ymwybodol o'r trychinebau a ddaeth o geisio sefydlu systemau sosialaiddl :? ?


Realydd a ddywedodd:erchyllterau comiwnyddol


erioed wedi digwydd :winc:

erchyllterau'r system unben oeddent, a mi ddylai unrhyw un bellach allu gweld nad yw honiadau gwleidyddol yr unbennaid eithafol yn gwneud mymryn o wahaniaeth yn y pen draw.

PostioPostiwyd: Iau 19 Mai 2005 9:24 am
gan Cwlcymro
Realydd a ddywedodd: Os nad oes gen ti system ddemocrataidd gall er mwyn cael gwared ar y llywodraeth yn rhwydd yna mae gen ti broblemau.


Yn hollol. Ti'n cytuno ma system ddemocrataidd ydi'r ateb. Felly dim canlyniad ideoleg Comiwnyddol oedd echylldra Stalin, ond canlyniad system unben.

PostioPostiwyd: Iau 19 Mai 2005 12:24 pm
gan Realydd
Cwlcymro a ddywedodd:
Yn hollol. Ti'n cytuno ma system ddemocrataidd ydi'r ateb.


Mae'n rhan bwysig o'r ateb ond hefyd rhaid i lywodraeth beidio mynd yn rhy fawr a phwerus- mwy o bwer i'r bobl a llai i'r gwleidyddion. Datganoli go iawn sef rhoi mwy o arian nol i bocedi'r bobl yn lle rhoi mwy i bocedi gwleidyddion a'r trysorlys.

PostioPostiwyd: Iau 19 Mai 2005 1:12 pm
gan Mr Gasyth
Realydd a ddywedodd:
Cwlcymro a ddywedodd:
Yn hollol. Ti'n cytuno ma system ddemocrataidd ydi'r ateb.


Mae'n rhan bwysig o'r ateb ond hefyd rhaid i lywodraeth beidio mynd yn rhy fawr a phwerus- mwy o bwer i'r bobl a llai i'r gwleidyddion. Datganoli go iawn sef rhoi mwy o arian nol i bocedi'r bobl yn lle rhoi mwy i bocedi gwleidyddion a'r trysorlys.


ai dy awgrym yw fod peryg i lefelau trethiant rhy uchel arwain at erchyllderau ble mae unben yn lladd miliaynau o bobl?!

PostioPostiwyd: Iau 19 Mai 2005 1:37 pm
gan Cwlcymro
Dydi faint o arian da ni'n roi i'r llywodraeth ddim yn ei gwneud ddim mwy unbenol.
Un peth sydd ei angen i osgoi system unbeniaeth. Rhaniad pwera(Seperation of powers)

Tra fod y llywodraeth, y senedd a'r llysoedd yn dri peth arwahan, sydd methu ymyryd efo'i gilydd yn ormodol, does na ddim peryg i wlad ddemocratol gael gormod o bwer a la Saddam, Stalin, Hitler. Dydi rhyw fath o gyfuno rhwng senedd a llywodraeth ddim yn ddrwg (yn enwedig gan, ym Mhrydain, mae'r llywodraeth yn ran o'r senedd) y peth wysig ydi'r llysoedd.
Tra fod y llysoedd arwahan mae'n bosib sicrhau fod llywodraeth yn cadw at y gyfraith. Pan ma'r system llysoedd yn disgyn i ddwylo'r llywodraeth (fel yn Zimbabwe) wedyn ma gyna chi unben, a mae'n bosib iawn y ceh chi echylldra.

Dydi lefal y trethi ddim yn dod mewn iddi.