Tudalen 4 o 4

PostioPostiwyd: Iau 19 Mai 2005 3:17 pm
gan Realydd
Chi'n (fwriadol dwi'n meddwl) ddim i'w weld yn deall y cysyniad syml iawn o'r llywodraeth yn mynd yn fwy pwerus na'r unigolyn wrth i'r llywodraeth gymryd mwy a mwy o arian o boced yr unigolyn, arian mae'r unigolyn wedi gweithio'n galed i'w ennill.

PostioPostiwyd: Iau 19 Mai 2005 3:20 pm
gan Cwlcymro
Da ni'n deall fod gan lywodraeth efo mwy o arian "bwer" ond dydio ddim rhyn pwer a'r math sy'n gallu troi yn echylldra. Pwer dros y llysoedd a'r senedd (judiciary a leigslator) ydi'r peth perryg.

PostioPostiwyd: Iau 19 Mai 2005 6:40 pm
gan Realydd
Cwlcymro a ddywedodd:Da ni'n deall fod gan lywodraeth efo mwy o arian "bwer" ond dydio ddim rhyn pwer a'r math sy'n gallu troi yn echylldra.


Ddim yn deall beth ti'n ddweud. Y mwyaf o arian a phwer sydd gan lywodraeth y mwyaf yw'r capasiti ar gyfer echylldra pe byddai nhw'n dymuno.

PostioPostiwyd: Gwe 20 Mai 2005 9:24 am
gan Cwlcymro
Realydd a ddywedodd: Y mwyaf o arian a phwer sydd gan lywodraeth y mwyaf yw'r capasiti ar gyfer echylldra pe byddai nhw'n dymuno.


Sut hyn? Sut ma nhw'n mynd i ddefnyddio'r pres ma i lofruddio a llwgu pobl? Dwi wedi esbonio ddwywaith, mi driai eto.

Mae'n amhosib i unrhyw lywodraeth gyflawni echylldra a la Stalin, Hitler, Saddam, Pol Pot etc tra fod y llysoedd ar gwneuthurwyr cyfraith (y Senedd i ni) yn ddigon annibynol o'r llywodraeth. Llysoedd annibynol sy'n dal fyny hygrydedd etholiad. Y funud ma'r llysoedd dan gontrol y llywodraeth, WEDYN ma'n bosib cael echylldra. e.e. Zimbabwe, ma'r llysoedd dan fawd Mugabe, a felly ma unrhyw wrthwynebydd yn cael ei roi yn y carchar. Rwsia, doedd gan y llysoedd ddim pwer felly mi oedd y KGB yn cael rhwydd hynt i wneud unrhywbeth oedda nhw isho.

Dydi faint o bres sydd gan y llywodraeth ddim yn newid dim. Ma gan y llywodraeth sawl biliwn yn y trysorlys, dydi hunna ddim yn golygu ellith Blair a Brown arestio Howard a Kennedy a'i rhoi o flaen llys wneith ei defrydu yn fradwyr a'i lladd.

PostioPostiwyd: Sul 22 Mai 2005 11:28 pm
gan GT
pogon_szczec a ddywedodd:
Chwadan a ddywedodd:Dwi'm yn deud - y broblem sy gennai efo dy ddadl ydi dy fod ti'n cymryd yn ganiataol fod na gysylltiad causal rhwng llofruddiaethau Stalin a'r ffordd roedd ei lywodraeth yn rheoli'r farchnad, h.y. ma Stalin yn coelio'n gryf mewn cynllunio canolog felly mae Stalin yn mynd i fynd ati i ladd miliynau o bobl (nid am farwolaethau achos newyn dwi'n son yma, gyda llaw, ond am y llofruddiaethau gwaed oer).


Doedd neb o dan Hitler, Mussolini a Pinochet yn marw oherwydd prinder bwyd.

Ond bu farw milynau yn yr Wcren, Cambodia a Gogledd Corea oherwydd newyn.

Felly mae cysylltiad uniongyrchol rhwng 'rheoli'r farchnad' a phobl yn cael eu lladd.


A gwrthod ymyrryd gyda'r farchnad oedd yn gyfrifol am y newyn yn yr Iwerddon.