sian a ddywedodd:Felly, beth wyt ti'n weud yw bod pobol ifanc yn symud bant o'r wlad am fod rhai eraill, llai abl, sy'n perthyn i bobl ddylanwadol yn cael y swyddi da i gyd. Ie?
Mae pobl ifanc yn symud bant o'r wlad am nifer fawr o resymau gwahanol a personol iddyn nhw, ond dwi'n siwr fod hwn yn un rheswm gan rei pobl.
Mae'r ddinas yn apelio gan fod cyfle i ddechrau hefo llechen lan a fuaswn i'n meddwl fod pobl yn cysidro fod mwy o feritocratiaeth mewn cael swydd mewn cwmni mawr mewn dinas. Does dim ond angen edrych ar anghenion trio am swyddi mewn llefydd felna- i mi gael swydd mewn cwmni mawr yn Lloegr roedd rhaid sefyll nifer fawr o brofion (digon trici) ar rifyddeg, rhesymeg ieithyddol, profion IQ ac ati. Gan fod cymaint o ymeiswyr roedd profion fel hyn yn rhan gyntaf o'r broses recriwtio.
Rydw i yn gwybod am enghreifftiau o bobl sydd ddim wedi gallu mynd yn bell mewn ardaloedd gwledig- oherwydd nepotistiaeth, medd nhw.
Tydw i ddim yn ymosod bodolaeth rhwydweithiau yn bwysig mewn ardaloedd gwledig ac mae nhw'n gallu bod yn fanteisiol iawn... ond hefyd yn anfanteisiol iawn. Teimlo ydw i fod cael swydd o'r coleg yn haws mewn dinasoedd pan nad yw nepotistiaeth yn gymaint o ffactor. Ti'n clywed gymaint o son am rai pobl yn cael swyddi 'lined-up' ar ol coleg oherwydd nepotistiaeth.