'Doedd o ddim yn
tangent go iawn - ti ehangodd y drafodaeth - nid fi.
Pwynt sydyn i ddechrau - nid dadlau am nepotistiaeth ydym ni ar hyn o bryd wrth gwrs, ond ar y ffordd y gwneir apwyntiadau ('rwyt ti a fi yn gwneud yr un joban a'n tadau, ond yn ffodus 'dydi Realydd ddim
) Felly mae'r ddadl wedi crwydro braidd beth bynnag. Cymryd mantais o'r ddadl yma i ymosod ar PC oedd y
tangent go iawn.
'Rwyt ti'n son am un penodiad penodol, mewn un cyngor arbennig. Petai rhywbeth yn amhriodol am y penodiad (ac fel yr egluraf wedyn 'dwi ddim yn meddwl bod) fyddai hynny'n ddim byd wrth ochr adeiladu cyfundrefn gwrth ddemocrataidd er mwyn gwobreuo cyfeillion gwleidyddol fel y gwnaeth Thatcher.
'Dwi ddim yn gwbl siwr am pa swydd ti'n son (go wir - mae cymaint o newid wedi bod yn ddiweddar mae pethau'n llai na chlir) ond os mae son am yr ail strwythuro a ddigwyddodd rhai blynyddoedd yn ol wyt ti, yna dydi dy ffeithiau ddim yn gwbl gywir yn ol fy nealltwriaeth.
Ail strwythurwyd y cyngor mewn modd oedd yn ei rannu i bedwar prif cyfadran. Hysbysebwyd y swyddi yn fewnol ymysg pobl oedd eisoes yn uchel swyddogion yn y cyngor. Dwi'n deall mai dyma'r drefn arferol o dan y sefyllfa yma - a gan fod y dref yn golygu bod nifer o swyddogion yn cael eu is raddio, roedd hefyd yn rhan o'r cytundeb efo'r undebau.
Rhoddodd dau swyddog eu henwau ymlaen ar gyfer y swydd ti'n cyfeirio ati. Un a roddwyd ar y rhestr fer, ac roedd cyfweliad.