Nepotistiaeth

Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall.
Rheolau’r seiat
Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Realydd » Llun 30 Mai 2005 2:24 pm

nicdafis a ddywedodd:Dyna'r pwynt hoffwn i weld Realydd ei ateb: os ydy'r ffaith bod lot o gysylltiadau teuluol yn y byd adloniant/cyfryngau yn <i>profi</i> bod nepotistiaeth yn rhemp yng Nghymru, pwy yw'n Lisa Tarbucks a Kelly Osbournes ni? Pwy, yn dy farn di, sy wedi ennill swydd na fydden nhw gan "nabod y bobl iawn"? Oes un enghraifft?


Dwi ddim digon dwl i fentro enwi'r enghreifftiau sydd gen i yn fy mhen ar fforwm gyhoeddus fel maes-e, nic. Ond yn sicr mae nifer fawr o enghreifftiau'n bodoli lle mae mab neu ferch rhywun pwysig wedi ffeindio'u hunain mewn swyddi lle nad oes ganddyn nhw falle y cymwysterau na'r dalent sydd gan eraill ond fod y cyfenw wedi bod yn ddigon. Dwi ddim yn gwadu mewn nifer o achosion fod y fab neu'r ferch yn gwneud y job yn iawn ond beth yw'r gwyliwr ddim yn gwybod yw pwy arall oedd yn ymgeisio am y swydd, a falle fyddai nhw wedi gwneud job well!
Realydd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1779
Ymunwyd: Maw 08 Meh 2004 1:20 pm

Postiogan nicdafis » Llun 30 Mai 2005 4:36 pm

Chwarae teg, ond mae hynny yn wir ym mhob maes, ym mhob wlad, am wn i.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Cath Ddu » Llun 30 Mai 2005 11:16 pm

Realydd a ddywedodd: Dwi ddim yn gwadu mewn nifer o achosion fod y fab neu'r ferch yn gwneud y job yn iawn ond beth yw'r gwyliwr ddim yn gwybod yw pwy arall oedd yn ymgeisio am y swydd, a falle fyddai nhw wedi gwneud job well!


Dyma bwynt pwysig iawn. Dwi'n derbyn fod hyn hefyd yn wir mewn gwledydd eraill, ond oes rhaid derbyn safonau gwleydd eraill yng Nghymru?
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Realydd » Llun 30 Mai 2005 11:19 pm

Mae nepotistiaeth yn wrth-feritocrataidd gan fod pobl sydd wedi dilyn addysg a cael cymwysterau falle'n cael eu gwrthod am swyddi neu gyfleon oherwydd fod nhw'n erbyn pobl sydd yn fab neu'n ferch i rywun pwysig o fewn y lle.
Realydd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1779
Ymunwyd: Maw 08 Meh 2004 1:20 pm

Postiogan Cath Ddu » Llun 30 Mai 2005 11:23 pm

Realydd a ddywedodd:Mae nepotistiaeth yn wrth-feritocrataidd gan fod pobl sydd wedi dilyn addysg a cael cymwysterau falle'n cael eu gwrthod am swyddi neu gyfleon oherwydd fod nhw'n erbyn pobl sydd yn fab neu'n ferch i rywun pwysig o fewn y lle.


Megis cyfarwyddwr addysg Gwynedd gafodd y swydd heb gyfweliad na hysbyseb. Oedd yna NEB arall yng Nghymru yn haeddu cyfweliad? Ta oed yna neb arall yng Nghymru wedi bod mor ffyddlon i arweinyddiaeth wleidyddol y Cyngor?
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Realydd » Llun 30 Mai 2005 11:32 pm

Cath Ddu a ddywedodd:Megis cyfarwyddwr addysg Gwynedd gafodd y swydd heb gyfweliad na hysbyseb. Oedd yna NEB arall yng Nghymru yn haeddu cyfweliad?


:lol:
Realydd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1779
Ymunwyd: Maw 08 Meh 2004 1:20 pm

Postiogan Hen Rech Flin » Maw 31 Mai 2005 2:18 am

Un o'r pethau anoddaf, wrth gwrs, yw diffinio beth yn union ydy "nepotistiseth" a phenderfyny pryd mae "dylanwad" yn droi oddiwryth cyd-diddordeb i "ddylanwad llwgr".

Os oeddwn yn "ohebydd ffwtbol" y BBC, mae'n debyg y buaswn yn rhannu fy niddordeb mawr mewn cicio cŵd o wynt efo fy mab, ac o dan y dylanwad yna mi fuasa fo, yn ei dro, yn droi yn "arbenigwr", llawn haeddianol, o jobyn brif ohebydd cydynau gwynt y bîb yn ei dro.

Ar lefel cymdeithasol is (maddeuwch y diffyg PC) – mae dyn yn clywed bod jobyn yn mynd yn y ffatri lle mae o’n gweithio ac yn annog ei laslanc o fab i geisio am dano – rhag ei fod o adre yn barhaus yn byw ar y teulu.

Nid “nepotistiaeth” yw’r un o’r achosion uchod – mater o “ddilyn yn ol draed” naturiol ydynt. A dyna, Realydd sydd wrth wreiddyn dy ddyfyniad
A recent study of two centuries of data by sociologists at Cardiff and Southampton found that while British society is in simple terms twice as mobile as it was 100 years ago, 'it is likely to take another 200-250 years before there is no association between fathers' and sons' occupational and social positions'.


I ddweud gwir yn onest, mi fuaswn yn synu pe bai bethau mor wahanol ym mhen dau gan mlynedd – pe na baent – druan o’r gymdeithas honno lle na fo dad yn dylanwadu ar ei fab!

Ar y cyfan y llygredigaeth yr wyf fi wedi ei brofi yw “wrth-nepotistiseth” lle mae pobl yr wyf yn perthyn iddynt, a gwaeth byth cynghorwyr yr wyf wedi ymgyrchu ar eu rhan – gan gynwys bod yn asiant iddynt ar adeg etholiad – wedi pleidleisio yn f’erbyn ar gyfer swydd er mwyn ffug ymddangos yn duduedd, er mae fi OEDD yr ymgeisydd gorau o ran cymhyster a phrofoiad am y swydd!
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan GT » Maw 31 Mai 2005 9:47 pm

Cath Ddu a ddywedodd:
Realydd a ddywedodd:Mae nepotistiaeth yn wrth-feritocrataidd gan fod pobl sydd wedi dilyn addysg a cael cymwysterau falle'n cael eu gwrthod am swyddi neu gyfleon oherwydd fod nhw'n erbyn pobl sydd yn fab neu'n ferch i rywun pwysig o fewn y lle.


Megis cyfarwyddwr addysg Gwynedd gafodd y swydd heb gyfweliad na hysbyseb. Oedd yna NEB arall yng Nghymru yn haeddu cyfweliad? Ta oed yna neb arall yng Nghymru wedi bod mor ffyddlon i arweinyddiaeth wleidyddol y Cyngor?


Arglwydd. Pwy ydi ei dad o felly? :D
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Cath Ddu » Maw 31 Mai 2005 10:59 pm

GT a ddywedodd:Arglwydd. Pwy ydi ei dad o felly? :D


Byddai'n enllibus i gynnig ateb :winc:
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan GT » Maw 31 Mai 2005 11:06 pm

Cath Ddu a ddywedodd:
GT a ddywedodd:Arglwydd. Pwy ydi ei dad o felly? :D


Byddai'n enllibus i gynnig ateb :winc:


Onid oedd y Farwnes Thatcher yn rhoi gwaith i'w byddin o 'blant gwleidyddol' ar rhyw GWANGO neu'i gilydd - i'w cadw nhw'n brysur ac allan o drwbwl? Quasi nepotistiaeth efallai?
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

NôlNesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Wleidyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron