Nepotistiaeth

Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall.
Rheolau’r seiat
Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan sian » Maw 28 Meh 2005 3:05 pm

Realydd a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:Allai ddim gweld sut all o fod, oherwydd siawns byddai nepotistiaeth yn golygu y buasai'n haws cael swydd ble mae pobl yn eich adnabod neu yn perthyn i chi yn hytrach na mewn dinas ddiarth.


Mae'n dibynnu pa mor ddylanwadol yw dy deulu... a fuaswn i'n dweud fod rhwydweithiau mewn ardaloedd gwledig yn gryf ac i raddau'n fwy pwysig i dy lwyddiant o gael swydd.


Felly, beth wyt ti'n weud yw bod pobol ifanc yn symud bant o'r wlad am fod rhai eraill, llai abl, sy'n perthyn i bobl ddylanwadol yn cael y swyddi da i gyd. Ie?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan Realydd » Maw 28 Meh 2005 3:37 pm

sian a ddywedodd:Felly, beth wyt ti'n weud yw bod pobol ifanc yn symud bant o'r wlad am fod rhai eraill, llai abl, sy'n perthyn i bobl ddylanwadol yn cael y swyddi da i gyd. Ie?


Mae pobl ifanc yn symud bant o'r wlad am nifer fawr o resymau gwahanol a personol iddyn nhw, ond dwi'n siwr fod hwn yn un rheswm gan rei pobl.

Mae'r ddinas yn apelio gan fod cyfle i ddechrau hefo llechen lan a fuaswn i'n meddwl fod pobl yn cysidro fod mwy o feritocratiaeth mewn cael swydd mewn cwmni mawr mewn dinas. Does dim ond angen edrych ar anghenion trio am swyddi mewn llefydd felna- i mi gael swydd mewn cwmni mawr yn Lloegr roedd rhaid sefyll nifer fawr o brofion (digon trici) ar rifyddeg, rhesymeg ieithyddol, profion IQ ac ati. Gan fod cymaint o ymeiswyr roedd profion fel hyn yn rhan gyntaf o'r broses recriwtio.

Rydw i yn gwybod am enghreifftiau o bobl sydd ddim wedi gallu mynd yn bell mewn ardaloedd gwledig- oherwydd nepotistiaeth, medd nhw.

Tydw i ddim yn ymosod bodolaeth rhwydweithiau yn bwysig mewn ardaloedd gwledig ac mae nhw'n gallu bod yn fanteisiol iawn... ond hefyd yn anfanteisiol iawn. Teimlo ydw i fod cael swydd o'r coleg yn haws mewn dinasoedd pan nad yw nepotistiaeth yn gymaint o ffactor. Ti'n clywed gymaint o son am rai pobl yn cael swyddi 'lined-up' ar ol coleg oherwydd nepotistiaeth.
Rhyddid i Gymry
Realydd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1779
Ymunwyd: Maw 08 Meh 2004 1:20 pm

Postiogan Blewyn » Iau 10 Tach 2005 8:20 am

Realydd a ddywedodd:Mae nepotistiaeth yn wrth-feritocrataidd gan fod pobl sydd wedi dilyn addysg a cael cymwysterau falle'n cael eu gwrthod am swyddi neu gyfleon oherwydd fod nhw'n erbyn pobl sydd yn fab neu'n ferch i rywun pwysig o fewn y lle.

Sioc ar fy nhin pan sylweddolais fod y Realydd wedi sgwennu rhywbeth dwi'n cytuno a ! Pa mor bell da chi am fynd a'r syniad ydy'r cwestiwn - be am y sector breifat ? Oes gan berchennog busnes hawl i fod yn nepotist ?

Mae'na ochr arall hefyd i'r cwestiwn am y swyddog yng Ngwynedd - pam ddylai bob swydd gael ei hysbysebu ar draws y wlad ? Yn wir, mae posib y bysa person gwell wedi eu canfod, ond yn amlwg mae bos y swyddog wedi penderfynnu ei fod o/hi yn gymwys i'r swydd. Mae'n iawn i ryw raddau i bobl gael disgwyl gyrfa gyson yn yr un lle, heb orfod cystadlu efo pobl estron, a heb orfod bowndian o gwmpas y wlad (neu'r byd) er mwyn aros mewn gwaith - d'oes neb yn protestio pan mae cwmniau yn dyrchafu o du fewn...
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Nôl

Dychwelyd i Cell Gymysg Wleidyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai