Realydd a ddywedodd:GT yw hynna'n cyfiawnhau dim hysbyseb a dim cyfweliad am swydd £75k?
GT a ddywedodd:Realydd a ddywedodd:GT yw hynna'n cyfiawnhau dim hysbyseb a dim cyfweliad am swydd £75k?
Gawn i ei roi o fel hyn? Galli ddweud fod y penderfyniad yn ddadleuol - ond 'dydi o ddim hanner mor ddadleuol a thywallt degau o filiynau o bres y cyhoedd i lawr y toiled er mwyn gwobreuo cyfeillion gwleidyddol fel y gwnaeth y Toriaid pan gawsant ei dwylo ar rym llywodraethol yn Llundain.
Mae'r Gath yn ol ei arfer wedi cael gafael ar rhyw fan fater neu'i gilydd i ymosod ar y Blaid. Mae ganddo olwg fel hebog pan mae'n dod i weld y darn llwch yn llygaid ei frawd, ond mae'n ddall fel twrch daear pan mae'n dod i weld y trawst yn llygaid ei blaid ei hun.
Hyd y gwn i 'does gan yr unigolyn mae'n son amdano ddim cysylltiad efo PC. Hyd y gwn i gwnaethwyd y penderfyniad ynglyn a'r swydd gan y pwyllgor staffio, ac hyd y gwn i 'doedd o ddim yn fater o anghydfod gwleidyddol - byddai bron i hanner pwyllgor o'r fath yn aelodau o grwpiau eraill.
GT a ddywedodd:'dydi o ddim hanner mor ddadleuol a thywallt degau o filiynau o bres y cyhoedd i lawr y toiled er mwyn gwobreuo cyfeillion gwleidyddol fel y gwnaeth y Toriaid pan gawsant ei dwylo ar rym llywodraethol yn Llundain.
casual a ddywedodd:be ddigwyddodd i'r pwnc nepotisitiaeth?
GT a ddywedodd:casual a ddywedodd:be ddigwyddodd i'r pwnc nepotisitiaeth?
Wedi ei wthio oddi ar y cledrau gyda sylw cwbl amherthnasol gan y giaman.
Pur anaml y bydd yn methu'r cyfle i geisio cyflawni'r dasg amhosibl o lusgo ei gyn blaid i bydew Lady Porteraidd ei blaid fabwysiedig.
Realydd a ddywedodd:Yw Nepotistiaeth yn reswm dros bobl ifanc yn mudo o'r ardaloedd gwledig i'r dinasoedd?
Mr Gasyth a ddywedodd:Allai ddim gweld sut all o fod, oherwydd siawns byddai nepotistiaeth yn golygu y buasai'n haws cael swydd ble mae pobl yn eich adnabod neu yn perthyn i chi yn hytrach na mewn dinas ddiarth.
Dychwelyd i Cell Gymysg Wleidyddol
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 36 gwestai