nicdafis a ddywedodd:Dyna'r pwynt hoffwn i weld Realydd ei ateb: os ydy'r ffaith bod lot o gysylltiadau teuluol yn y byd adloniant/cyfryngau yn <i>profi</i> bod nepotistiaeth yn rhemp yng Nghymru, pwy yw'n Lisa Tarbucks a Kelly Osbournes ni? Pwy, yn dy farn di, sy wedi ennill swydd na fydden nhw gan "nabod y bobl iawn"? Oes un enghraifft?
Dwi ddim digon dwl i fentro enwi'r enghreifftiau sydd gen i yn fy mhen ar fforwm gyhoeddus fel maes-e, nic. Ond yn sicr mae nifer fawr o enghreifftiau'n bodoli lle mae mab neu ferch rhywun pwysig wedi ffeindio'u hunain mewn swyddi lle nad oes ganddyn nhw falle y cymwysterau na'r dalent sydd gan eraill ond fod y cyfenw wedi bod yn ddigon. Dwi ddim yn gwadu mewn nifer o achosion fod y fab neu'r ferch yn gwneud y job yn iawn ond beth yw'r gwyliwr ddim yn gwybod yw pwy arall oedd yn ymgeisio am y swydd, a falle fyddai nhw wedi gwneud job well!