Tudalen 1 o 5

Nepotistiaeth

PostioPostiwyd: Sul 29 Mai 2005 7:37 pm
gan Realydd
Yn Spectator yr wythnos yma, roedd erthygl ddifyr am "social moibility", dyma ddyfyniad (tud.12), mae'n ddrwg gen i am y Saesneg:

A recent study of two centuries of data by sociologists at Cardiff and Southampton found that while British society is in simple terms twice as mobile as it was 100 years ago, 'it is likely to take another 200-250 years before there is no association between fathers' and sons' occupational and social positions'.


Rydw i wedi derbyn cynnig Hen Rech Flin i ddechrau trafodaeth am hyn i ffwrdd o'r edefyn hwyliog o'r seiat Ffilmau, Radio a Theledu.

Gyda'r nifer fawr o enghreifftiau o gysylltiadau teuluol o fewn diwydiant fel y cyfryngau yng Nghymru a gafodd ei gynnig yn yr edefyn yna, fuasech chi'n dweud fod nepotistiaeth yn rhemp yng Nghymru ac ydy o'n gwneud mwy o ddrwg na da i'n cymdeithas?

PostioPostiwyd: Sul 29 Mai 2005 8:03 pm
gan nicdafis
Mae gwahaniaeth rhwng nepostistiaeth a mynd i mewn i fusnes y teulu, ond oes? Daw'r rhan fwya (?) o ffermwyr Cymru o deuluoedd ffermio - ydy hynny yn broblem hefyd? Mae'r un peth yn digwydd yn Lloegr ac America, ond yw e? Meddwl am deuluoedd fel y Redgraves, y Douglases, Tim/Jeff Buckley, Martha/Rufus/Loudon Wainwright...

Dw i ddim yn dweud bod nepostistiaeth ddim yn bodoli, na bod rhai pobl yn defnyddio eu cysylltiadau/enw teulu er mwyn gwella eu gyrfa (Lisa Tarbuck? Kelly Osbourne?) jyst fod e ddim yn ffenomen Cymreig per se.

PostioPostiwyd: Sul 29 Mai 2005 8:34 pm
gan Realydd
nicdafis a ddywedodd:Mae gwahaniaeth rhwng nepostistiaeth a mynd i mewn i fusnes y teulu, ond oes?


oes, fuaswn i'n ddweud

PostioPostiwyd: Sul 29 Mai 2005 8:50 pm
gan gronw
o'r holl bobl cyfryngau sy'n blentyn/chwaer/gefnder i rywun arall enwog, fyswn i'n dweud bod y mwyafrif llethol iawn yno oherwydd eu bod nhw'n dda, nid oherwydd eu cysylltiadau. meddwl am bobl fel angharad llwyd (merch leah owen) a nia roberts (merch JO) -- cyflwynwyr gore s4c.

PostioPostiwyd: Sul 29 Mai 2005 8:55 pm
gan nicdafis
Realydd: Felly, beth? Oedd fy mhwynt yn un dilys, neu'r lol wishi-washi rhyddfrydol arferol?

PostioPostiwyd: Sul 29 Mai 2005 9:00 pm
gan Realydd
ti'n codi pwyntiau difyr nic

PostioPostiwyd: Sul 29 Mai 2005 9:09 pm
gan Llewelyn Richards
Felly sgen ti ddadl Realydd? Ta ti jyst yn flin am nad yw dadi'n gynhyrchydd teledu?

PostioPostiwyd: Sul 29 Mai 2005 11:34 pm
gan Realydd
Codi cwestiynau ydw i, Llewelyn. Beth yw dy farn di ar y pwnc yma?

PostioPostiwyd: Llun 30 Mai 2005 10:11 am
gan nicdafis
gronw a ddywedodd:o'r holl bobl cyfryngau sy'n blentyn/chwaer/gefnder i rywun arall enwog, fyswn i'n dweud bod y mwyafrif llethol iawn yno oherwydd eu bod nhw'n dda, nid oherwydd eu cysylltiadau.


Dyna'r pwynt hoffwn i weld Realydd ei ateb: os ydy'r ffaith bod lot o gysylltiadau teuluol yn y byd adloniant/cyfryngau yn <i>profi</i> bod nepotistiaeth yn rhemp yng Nghymru, pwy yw'n Lisa Tarbucks a Kelly Osbournes ni? Pwy, yn dy farn di, sy wedi ennill swydd na fydden nhw gan "nabod y bobl iawn"? Oes un enghraifft?

PostioPostiwyd: Llun 30 Mai 2005 10:37 am
gan sian
Yn gyffredinol, hyd y gwela i, yn y cyfryngau Cymraeg, mae meibion/merched pobl amlwg yn gwneud job dda iawn ohoni.
Gwell, yn aml, na chyflwynwyr/actorion sydd heb gysylltiadau defnyddiol.

Hefyd, fel y soniais mewn edefyn arall, mae plant yn dueddol o ddilyn eu rhieni mewn sawl maes - o ddewis neu o raid - ond nad yw mor amlwg ymhlith athrawon, postmyn, gweithwyr ffatri ag ydyw yn y cyfryngau.

(Dydw i ddim yn dweud nad yw nepotistiaeth yn broblem - yng Nghymru a thu hwnt)