Tudalen 4 o 5

PostioPostiwyd: Mer 01 Meh 2005 11:18 am
gan Realydd
GT yw hynna'n cyfiawnhau dim hysbyseb a dim cyfweliad am swydd £75k?

PostioPostiwyd: Mer 01 Meh 2005 11:56 am
gan GT
Realydd a ddywedodd:GT yw hynna'n cyfiawnhau dim hysbyseb a dim cyfweliad am swydd £75k?

Gawn i ei roi o fel hyn? Galli ddweud fod y penderfyniad yn ddadleuol - ond 'dydi o ddim hanner mor ddadleuol a thywallt degau o filiynau o bres y cyhoedd i lawr y toiled er mwyn gwobreuo cyfeillion gwleidyddol fel y gwnaeth y Toriaid pan gawsant ei dwylo ar rym llywodraethol yn Llundain.

Mae'r Gath yn ol ei arfer wedi cael gafael ar rhyw fan fater neu'i gilydd i ymosod ar y Blaid. Mae ganddo olwg fel hebog pan mae'n dod i weld y darn llwch yn llygaid ei frawd, ond mae'n ddall fel twrch daear pan mae'n dod i weld y trawst yn llygaid ei blaid ei hun.

Hyd y gwn i 'does gan yr unigolyn mae'n son amdano ddim cysylltiad efo PC. Hyd y gwn i gwnaethwyd y penderfyniad ynglyn a'r swydd gan y pwyllgor staffio, ac hyd y gwn i 'doedd o ddim yn fater o anghydfod gwleidyddol - byddai bron i hanner pwyllgor o'r fath yn aelodau o grwpiau eraill.

PostioPostiwyd: Mer 01 Meh 2005 9:10 pm
gan Cath Ddu
GT a ddywedodd:

Ystyriwch gyfraniad GT yn y cyd-destun fod ei fam wedi 'rubber stampio' y penderfyniad. Smoke screen yw'r gweddill.

PostioPostiwyd: Mer 01 Meh 2005 9:29 pm
gan Realydd
GT a ddywedodd:'dydi o ddim hanner mor ddadleuol a thywallt degau o filiynau o bres y cyhoedd i lawr y toiled er mwyn gwobreuo cyfeillion gwleidyddol fel y gwnaeth y Toriaid pan gawsant ei dwylo ar rym llywodraethol yn Llundain.

Does gen i ddim sail i honni fod y penodiad yma'n un gwleidyddol, (dim sail i ddweud fod o ddim, chwaith) ond os petae o yn benodiad hefo motifs gwleidyddol, fuaset ti'n condemnio'r penderfyniad, GT?

PostioPostiwyd: Mer 01 Meh 2005 9:54 pm
gan casual
be ddigwyddodd i'r pwnc nepotisitiaeth?

:?

PostioPostiwyd: Llun 06 Meh 2005 7:16 pm
gan GT
casual a ddywedodd:be ddigwyddodd i'r pwnc nepotisitiaeth?

:?

Wedi ei wthio oddi ar y cledrau gyda sylw cwbl amherthnasol gan y giaman.

Pur anaml y bydd yn methu'r cyfle i geisio cyflawni'r dasg amhosibl o lusgo ei gyn blaid i bydew Lady Porteraidd ei blaid fabwysiedig.

PostioPostiwyd: Maw 07 Meh 2005 11:56 pm
gan Cath Ddu
GT a ddywedodd:
casual a ddywedodd:be ddigwyddodd i'r pwnc nepotisitiaeth?

:?

Wedi ei wthio oddi ar y cledrau gyda sylw cwbl amherthnasol gan y giaman.

Pur anaml y bydd yn methu'r cyfle i geisio cyflawni'r dasg amhosibl o lusgo ei gyn blaid i bydew Lady Porteraidd ei blaid fabwysiedig.

Digon gwir - mae 'na gyfle wythnosol i wneud hyn yma yng Ngwynedd :lol:

PostioPostiwyd: Maw 28 Meh 2005 2:09 pm
gan Realydd
Yw Nepotistiaeth yn reswm dros bobl ifanc yn mudo o'r ardaloedd gwledig i'r dinasoedd?

PostioPostiwyd: Maw 28 Meh 2005 2:12 pm
gan Mr Gasyth
Realydd a ddywedodd:Yw Nepotistiaeth yn reswm dros bobl ifanc yn mudo o'r ardaloedd gwledig i'r dinasoedd?

Allai ddim gweld sut all o fod, oherwydd siawns byddai nepotistiaeth yn golygu y buasai'n haws cael swydd ble mae pobl yn eich adnabod neu yn perthyn i chi yn hytrach na mewn dinas ddiarth.

PostioPostiwyd: Maw 28 Meh 2005 2:36 pm
gan Realydd
Mr Gasyth a ddywedodd:Allai ddim gweld sut all o fod, oherwydd siawns byddai nepotistiaeth yn golygu y buasai'n haws cael swydd ble mae pobl yn eich adnabod neu yn perthyn i chi yn hytrach na mewn dinas ddiarth.

Mae'n dibynnu pa mor ddylanwadol yw dy deulu... a fuaswn i'n dweud fod rhwydweithiau mewn ardaloedd gwledig yn gryf ac i raddau'n fwy pwysig i dy lwyddiant o gael swydd.