Tudalen 1 o 1

Gwarth y Guardian

PostioPostiwyd: Sad 23 Gor 2005 9:00 pm
gan Dave Thomas
addaswyd

PostioPostiwyd: Sad 23 Gor 2005 10:18 pm
gan Barbarella
*ochenaid*

Ydi wir yn ormod i ofyn i ti gwirio fy ffeithiau cyn postio negeseuon fel hyn?

Mae'r Guardian wedi ymddiswyddo'r boi. <a href="http://media.guardian.co.uk/site/story/0,14173,1534495,00.html">Mae'n brif stori ar eu gwefan cyfryngau nhw</a>. :rolio:

PostioPostiwyd: Sul 24 Gor 2005 12:58 am
gan Cath Ddu
Barbarella a ddywedodd:Mae'r Guardian wedi ymddiswyddo'r boi. <a href="http://media.guardian.co.uk/site/story/0,14173,1534495,00.html">Mae'n brif stori ar eu gwefan cyfryngau nhw</a>. :rolio:


Diswyddo dwi'n gobeithio :winc:

Tydi hynny ddim yn esgusodi y Guardian am gyhoeddi erthygl ganddo yn nodi fod yr hunan fomiwyr yn 'sassy'.

PostioPostiwyd: Sul 24 Gor 2005 11:09 am
gan Macsen
Cath Ddu a ddywedodd:Tydi hynny ddim yn esgusodi y Guardian am gyhoeddi erthygl ganddo yn nodi fod yr hunan fomiwyr yn 'sassy'.


sas·sy1 (săs'ē)
adj., -si·er, -si·est.

1. Rude and disrespectful; impudent.

Ddim yn gweld unrhyw drafferth gyda'r uchod.

2. Lively and spirited; jaunty.

Well, mi oedden nhw'n mynd i rafftio dwr gwyn.

3. Stylish; chic: a sassy little hat.

Ti'n iawn, dylsai fo ddim cael ei esgusodi am awgrymu fod yr apparel terfysgol yn 'chic'.

Be' bynnag, mae'r Guardian wedi cael gwared ohono ar y arwydd cyntaf o drafferth. Tydi nhw ddim eisiau ryw fath o Kilroy-Silk Mwslimaidd yn corddi'r cyhoedd byth a hefyd.

PostioPostiwyd: Sul 24 Gor 2005 2:27 pm
gan Barbarella
Cath Ddu a ddywedodd:Diswyddo dwi'n gobeithio :winc:

A ie, wrth gwrs! Diolch.

Cath Ddu a ddywedodd:Tydi hynny ddim yn esgusodi y Guardian am gyhoeddi erthygl ganddo yn nodi fod yr hunan fomiwyr yn 'sassy'.

Mae pawb yn gwneud camgymeriadau. Gweler neges gyntaf yr edefyn gan Dave Thomas. Mae'r Guardian wedi diswyddo'r boi, ac wedi derbyn bod bai arnyn nhw. Tybed wnaiff Dave Thomas wneud yr un peth yma? ;-)

PostioPostiwyd: Sul 24 Gor 2005 2:38 pm
gan Dave Thomas
addaswyd

PostioPostiwyd: Sul 24 Gor 2005 2:44 pm
gan eusebio
Dynna beth ydi disgyn ar dy fai, Dave - gwneud U-Turn

PostioPostiwyd: Sul 24 Gor 2005 3:05 pm
gan Iesu Nicky Grist
Macsen a ddywedodd:2. Lively and spirited; jaunty.

Well, mi oedden nhw'n mynd i rafftio dwr gwyn.

3. Stylish; chic: a sassy little hat.

Ti'n iawn, dylsai fo ddim cael ei esgusodi am awgrymu fod yr apparel terfysgol yn 'chic'.



:lol: