Tudalen 2 o 2

PostioPostiwyd: Gwe 14 Hyd 2005 10:20 am
gan ceribethlem
Fi'n credu fod lot o bethau yn cael eu rhoi yn y siarter gwrth fwlio er mwyn gallu osgoi trafferth.
Bydde'r athrawon yn tueddu i gymryd cymaint o dystiolaeth a phosib ac ymateb yn ol yr amgylchiadau.
Mae un clatshen ar ol un dadl yn tueddu i orffen y ddadl, a bydde'r gosb gan yr athrawon yn digwydd yn syth, yna dim lot mwy am y peth. Os bydde rhywbeth yn digwydd yn gyson yna bydde rhaid edrych yn fwy manwl ar y peth gan gadw llygad cyson ar y ddau dan sylw. Yn aml mewn ysgol fydd yr athrawon yn cael cyhoeddiad yn y bore i gadw dau ddisgybl ar wahan, ac i gadw llygad ar rhyw ddisgyblion penodol i weld a oes problem.

Ynglyn a dy bwynt di am chwarae o gwmpas, Hen Rech Flin, bydde'r athrawon yn deall mai chwarae yw hyn, er ei fod yn gallu dod o dan y term "bwlio". Mae llawer yn dibynnu (fel dywedwyd eisoes) os yw'r disgybl sy'n cael y poen yn ei weld fel chwarae, neu os yw'm teimlo ei fod yn cael sylw anheg ac fod y boen yn unochrog ac yn gyson.

Mae'r holl beth yn annodd iawn, rhaid i'r athrawon geisio atal bwlio, tra'n gadael i'r plant chwarae o gwmpas, wedi cyfan , 'sneb moyn police state boed hynny yn yr ysgol neu tu allan iddi.

(braidd o rambl fi'n gwbod, ond gobeithio fod e'n neud sens)

PostioPostiwyd: Gwe 14 Hyd 2005 10:29 am
gan Iesu Nicky Grist
Cewch chi byth wared ar "fwlio".

Os mai parhau bydd sefydliadau fel ysgolion, sy'n dod law yn llaw 'da arholiadau a chwaraeon etc. (hy - unrhywbeth sy'n cynnig cystadleuaeth rhwng plant neu'n achos i rannu carfanau o blant), fe gewch hierarchiaethau o bob math ynghlwm a phob math o FWLIO.