O ie, mi wnes i anghofio ateb rhan o'r cwestiwn.
Un peth fedrwch chi ei wneud, yw cadw'n ddistaw am y peth am dipyn. Canolbwyntiwch ar yr hyn yr ydych yn ei wneud. Os ma gen chi swydd a'ch bod yn llwyddiannus ynddo, gwnewch eich gorau i ddangos eich bod yn weithiwr caled, ac yn berson teg a da, gan geisio dringo'r ysgol.
Cyhoeddwch eich bod yn drawswisgwr. Ceith pawb weld sut fath o berson yr ydych. Credaf y bydd yn beth fawr i bobl ei dderbyn achos, ei fod ddim yn beth 'normal' drwy llygaid llawer o bobl. Hynny yw, does neb bron yn adnabod un, felly methu perthnasu a hynny.
Y mae sawl AS da yn San Steffan sydd yn reit agored am y ffaith eu bod yn hoyw.
http://en.wikipedia.org/wiki/List_of_famous_gay,_lesbian_or_bisexual_people
Dwi'n gwbad nad yw traswisgwr yr un fath a rhywun hoyw, ond mae'r gymdeithas yn cael trafferth derbyn y ddau. Os edrychwch chi ar y rhestr yma, nid yw eu 'statws' wedi eu rhwystro.
Os fedrwch chi neud yn dda yn eich maes, yna wneith pobl derbyn chi fel person a nid am eich statws. Ond mae angen mwy o ymdrech i'w wneud.