Ydi pobl yn barod i dderbyn trawswisgwyr?
Postiwyd: Llun 14 Tach 2005 9:24 am
Nid oeddwn yn siwr iawn lle i roi y drafodaeth yma- fuo bron i mi ei roi o dan 'Materion Cymru' gan fy mod i yn credu ei fod yn bwnc pwysig- ond dwi di roi o yn fanyma rhag ofn!
Dwi yn awyddus i weld os yw pobl yn barod i fy nerbyn, gan fy mod i yn drawswisgwr. Roeddwn yn meddwl y byddai fy ffrindiau wedi bod yn iawn am y mater- ond fe wnes i fentro un diwrnod wisgo blows yn eu cwmni, ac roedd pawb yn gwneud hwyl am fy mhen- felly, o ganlyniad, rwy'n awyddus i gael gwybod beth yw barn nifer o Gymry Cymraeg ar y mater!