Ydi pobl yn barod i dderbyn trawswisgwyr?

Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall.
Rheolau’r seiat
Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Beth yw eich barn ar drawswisgwyr?

Dim problem efo nhw o gwbwl
9
45%
Dim yn eu hoffi llawer
2
10%
Dim cred un ffordd na'r llall
6
30%
Ni ddylid gorfod gweld pobl o'r fath yn y gymdeithas
3
15%
Dim yn eu hoffi o gwbwl
0
Dim pleidleisiau
 
Cyfanswm pleidleisiau : 20

Ydi pobl yn barod i dderbyn trawswisgwyr?

Postiogan higat_trawswisgwr » Llun 14 Tach 2005 9:24 am

Nid oeddwn yn siwr iawn lle i roi y drafodaeth yma- fuo bron i mi ei roi o dan 'Materion Cymru' gan fy mod i yn credu ei fod yn bwnc pwysig- ond dwi di roi o yn fanyma rhag ofn!

Dwi yn awyddus i weld os yw pobl yn barod i fy nerbyn, gan fy mod i yn drawswisgwr. Roeddwn yn meddwl y byddai fy ffrindiau wedi bod yn iawn am y mater- ond fe wnes i fentro un diwrnod wisgo blows yn eu cwmni, ac roedd pawb yn gwneud hwyl am fy mhen- felly, o ganlyniad, rwy'n awyddus i gael gwybod beth yw barn nifer o Gymry Cymraeg ar y mater!
Cau dy y geg y cont!!!
Rhithffurf defnyddiwr
higat_trawswisgwr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 35
Ymunwyd: Iau 27 Hyd 2005 3:20 pm
Lleoliad: Llandrawswisgo

Re: Ydi pobl yn barod i dderbyn trawswisgwyr?

Postiogan huwwaters » Llun 14 Tach 2005 10:14 am

higat_trawswisgwr a ddywedodd:Nid oeddwn yn siwr iawn lle i roi y drafodaeth yma- fuo bron i mi ei roi o dan 'Materion Cymru' gan fy mod i yn credu ei fod yn bwnc pwysig- ond dwi di roi o yn fanyma rhag ofn!

Dwi yn awyddus i weld os yw pobl yn barod i fy nerbyn, gan fy mod i yn drawswisgwr. Roeddwn yn meddwl y byddai fy ffrindiau wedi bod yn iawn am y mater- ond fe wnes i fentro un diwrnod wisgo blows yn eu cwmni, ac roedd pawb yn gwneud hwyl am fy mhen- felly, o ganlyniad, rwy'n awyddus i gael gwybod beth yw barn nifer o Gymry Cymraeg ar y mater!


Dwi di deud, fy mod heb broblem o gwbwl. Nid fy lle i yw hi i ddweud pwy sy'n iawn neu'n anghywir, neu pwy sy'n dderbynniol neu annerbynniol yn y gymdeithas. Pobl fel yma, a phoble eraill sy'n creu cymdeithas.

Yr unig gwestiwn dwi efo yw, pam? Ac wrach, sut yr ydych yn egluro hyn i blant iau?
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: Ydi pobl yn barod i dderbyn trawswisgwyr?

Postiogan ceribethlem » Llun 14 Tach 2005 11:00 am

higat_trawswisgwr a ddywedodd:Dwi yn awyddus i weld os yw pobl yn barod i fy nerbyn, gan fy mod i yn drawswisgwr. Roeddwn yn meddwl y byddai fy ffrindiau wedi bod yn iawn am y mater- ond fe wnes i fentro un diwrnod wisgo blows yn eu cwmni, ac roedd pawb yn gwneud hwyl am fy mhen- felly
Oedden nhw'n gwybod dy fod yn drawswisgiwr cyn i ti droi lan mewn blows? Mae'n bosib taw sioc oedd hi.
Does gen i ddim problem o gwbwl gyda trawswisgwyr (er ddim yn nabod dim yn dda), ond bydden i'n cael bach o sioc petai un o'm ffrindie'n troi lan yn sydyn wedi trawswisgo.
Falle bydde trafod dy deimladau gyda nhw ar lefel unigol yn helpu.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan haia_tin_iawn » Llun 14 Tach 2005 11:32 am

yn bersonol dwin meddwl bod on ffiaidd. dyle bo na neb yn neud y ffasiwn beth. diom yn fy synnu fi bo dy ffrindiau wedi chwerthin am dy ben di, os fyswn i yn ffrind i chdi 'swn in chwerthin am dy ben di hefyd.

does dim lle yn y gymdeithas ar gyfer trawswisgwyr.
Rhithffurf defnyddiwr
haia_tin_iawn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 32
Ymunwyd: Llun 14 Tach 2005 11:27 am

Postiogan John West » Llun 14 Tach 2005 11:47 am

Ma'n ddrwg iawn gen i glywed am dy drafferthion Higat. Dwi'n meddwl mai'r peth gorau i ti wneud ydi ffeindio ffrindiau newydd. Os nad ydyn yn barod i dy dderbyn di am be wyt ti yna dydyn nhw ddim yn ffrindia da o gwbl. Paid a gadael iw hymateb nhw effeithio ar dy hyder pan yn gwisgo fynny. Tydi trawswisgwyr ddim yn "my cup of tea" ond pawb at y peth a bo ddweda i.

Bydd yn falch o'r hyn wyt ti!
John West
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 1
Ymunwyd: Llun 14 Tach 2005 11:38 am
Lleoliad: Ar blaned arall lle does dim yn digwydd

Postiogan huwwaters » Llun 14 Tach 2005 12:00 pm

O ie, mi wnes i anghofio ateb rhan o'r cwestiwn.

Un peth fedrwch chi ei wneud, yw cadw'n ddistaw am y peth am dipyn. Canolbwyntiwch ar yr hyn yr ydych yn ei wneud. Os ma gen chi swydd a'ch bod yn llwyddiannus ynddo, gwnewch eich gorau i ddangos eich bod yn weithiwr caled, ac yn berson teg a da, gan geisio dringo'r ysgol.

Cyhoeddwch eich bod yn drawswisgwr. Ceith pawb weld sut fath o berson yr ydych. Credaf y bydd yn beth fawr i bobl ei dderbyn achos, ei fod ddim yn beth 'normal' drwy llygaid llawer o bobl. Hynny yw, does neb bron yn adnabod un, felly methu perthnasu a hynny.

Y mae sawl AS da yn San Steffan sydd yn reit agored am y ffaith eu bod yn hoyw.

http://en.wikipedia.org/wiki/List_of_famous_gay,_lesbian_or_bisexual_people

Dwi'n gwbad nad yw traswisgwr yr un fath a rhywun hoyw, ond mae'r gymdeithas yn cael trafferth derbyn y ddau. Os edrychwch chi ar y rhestr yma, nid yw eu 'statws' wedi eu rhwystro.

Os fedrwch chi neud yn dda yn eich maes, yna wneith pobl derbyn chi fel person a nid am eich statws. Ond mae angen mwy o ymdrech i'w wneud.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan ceribethlem » Llun 14 Tach 2005 3:05 pm

haia_tin_iawn a ddywedodd:yn bersonol dwin meddwl bod on ffiaidd. dyle bo na neb yn neud y ffasiwn beth. diom yn fy synnu fi bo dy ffrindiau wedi chwerthin am dy ben di, os fyswn i yn ffrind i chdi 'swn in chwerthin am dy ben di hefyd.

does dim lle yn y gymdeithas ar gyfer trawswisgwyr.
Sdim lle yn y gymdeithas i bigoted twats chwaith. Pric.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Gwyn » Llun 14 Tach 2005 4:03 pm

Ok, se un o ffrindie fi'n gwisgo blows (ac yn gweud bod e'n debygol o wisgo blows yn aml yn ein cwmni), bydde fe'n cael lot o stick am y peth. Bydden i'n shocked ac yn debygol o chwerthin am ei ben am bach (dim byd cas, jyst banter, fel sy ymysg ffrindie).

Ond y bottom line yw, dyw rhwbeth sy yn ei hanfod ddim yn neud drwg gwirioneddol i neb (trawswisgo) ddim yn mynd i beryglu perthynas sy di datblygu dros flynyddoedd maith.
Shwdi boi
Rhithffurf defnyddiwr
Gwyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 579
Ymunwyd: Iau 07 Ebr 2005 12:47 pm
Lleoliad: Clywedog

Postiogan haia_tin_iawn » Llun 14 Tach 2005 4:18 pm

ceribethlem a ddywedodd:
Sdim lle yn y gymdeithas i bigoted twats chwaith. Pric.


dwim yn cael rhoi fy marn, ond mae o'n ok i chdi yng ngalw in pric?!! HYPOCRITE!!

i mi mae trawswisgo yn wbeth sy'n dangos gwendid mewn person, isio sylw a gwneud sioe ydio i gyd. does ne'm rhyfedd bo nhw yn cymud y piss ar "little britain" achos mae'r peth yn chwerthinllyd!!
Rhithffurf defnyddiwr
haia_tin_iawn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 32
Ymunwyd: Llun 14 Tach 2005 11:27 am

Postiogan GringoOrinjo » Llun 14 Tach 2005 4:52 pm

Dwi'n gweld dim byd yn bod ar y peth o gwbl, jesd dillad ydio yn y diwadd, a mae hi i fyny i unigolion yn hytrach na chymdeithas i ddewis beth mae nhw am wisgo. Ma agwedd pobl fel haia_tin_iawn yn ffiaidd, pwy ddiawl da chi i ddweud pwy sydd gyda lle yn y gymdeithas?
A gyda'r pwynt mai "dim ond eisiau sylw" mae trawswisgwyr, dyna bedi pwynt ffasiwn! Jeez :drwg:

(sbia ar Rocky Horror haia_tin_iawn, ti'n siwr o newid dy farn :winc: )
Rhithffurf defnyddiwr
GringoOrinjo
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 520
Ymunwyd: Gwe 16 Ebr 2004 9:48 pm

Nesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Wleidyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai