Syniadau economaidd Saunders Lewis

Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall.
Rheolau’r seiat
Unrywbeth "gwleidyddol" sydd ddim yn ffitio unrhywle arall. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Huw Psych » Sad 25 Maw 2006 1:05 pm

Difyr iawn ydi hyn. Dyn sydd wedi sgwennu llyfr ar y pwnc ydi E.F. Schumcher, Small is Beautiful. Mae Taid wedi awgrymu i fi (a Teg) ddarllen hwn, mae o wedi hyd yn oed rhoi copi ohono i fi, ond (i'm embaras), ar y silff mae o wedi bod. :wps:
Ella y bydda yn syniad i nifer o ddarllen hwn, gan gynnwys aelodau yn rhengoedd PC!

Diddorol ydi gweld fod nifer o grwpiau cenedlaetholgar efo golygon dosbarthiaeth, falle yn wir fod PC yn mynd y ffordd anghywir?!

Cath ddu a ddywedodd:Dwi'n edrych ymlae yn arw i ddarllen cofiant Rhys o Gwynfor Evans dros y Nadolig - efallai y cawn wybod ganddo pryd y datblygodd PC yn gysgod o'r chwith Brydeinig o ran ei syniadaeth economaidd.
Os na ateb eto ar wahan i ragdybiaeth Mr Gasyth??
Rhithffurf defnyddiwr
Huw Psych
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1205
Ymunwyd: Iau 13 Hyd 2005 3:05 pm
Lleoliad: Ty'n Twll, Gwlad y Rwla

Postiogan Emrys Weil » Sad 25 Maw 2006 5:33 pm

Diddorol iawn.

Y broblem ymarferol i ideoleg SL yw mai rhamantiaeth oes-aur oedd hi. Mi oedd Pabyddion asgell-dde rhamantaidd (ond tipyn mwy difyr) Saesneg fel Chesterton a Belloc wedi gwyntyllu syniadau tebyg. Nid oeddent yn gallu delio efo realiti diwydiannaeth, na'r proletariat enfawr a grewyd yn sgil hynny.

Be' sy'n ddiddorol efo SL ydi fod yr haenen gref o ddelfrydu trefn gymdeithasol y canol oesoedd yn cyd-fynd efo'r rhamantiaeth hon. Yn hynny o beth, 'roedd yn debycach i rai rhamantwyr Saesneg cynharach.

Fedri di ddim cael plaid wleidyddol lwyddiannus sy'n anwybyddu realiti bob dydd bywyd cymdeithasol ac economaidd y rhan fwyaf o'r bobl yr wyt yn ceisio eu pleidleisiau. Dydi "Dewch gyda mi'n ol i oes Dafydd Nanmor" ddim yn rhoi bara ar y bwrdd, addysg i'r plant na gofal iechyd.

Dyma sylweddoliad Wigley a Williams, mae'n siwr.
Pan gyrhaeddaswn ganol gyrfa'n bywyd,
Mewn coedwig dywell, cefais i fy hunan;
Oherwydd ynddi'r union ffordd gollasid.
Rhithffurf defnyddiwr
Emrys Weil
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 410
Ymunwyd: Gwe 16 Gor 2004 8:02 pm

Postiogan Huw Psych » Sad 25 Maw 2006 8:41 pm

Aaa, rhamantiaeth oes-aur! [/gwenoglun breuddwydiol]

O'r hyn yr ydw i wedi ei ddeallt, y syniad ydi fod y dosbarthiadau is yn elwa o'r dosbarthiad, y crefftwyr fel petae. Dyna, o bosibl, pam y byddai'r sustem wedi bod o fudd i Gymru yn oes SL lle ar y pryd roedd nifer o grefftwyr a siopau bach lleol yn bodoli.
Mae pobl, yn enwedig ffermwyr, dyddia yma yn flin gan nad ydi pobl leol yn prynu eu cynyrch...ai dosbarthiaeth ydi'r ateb?!

Dwi ddim yn siwr sut na fyddai'r sustem yn rhoi...
Emrys Weil a ddywedodd:...bara ar y bwrdd, addysg i'r plant a gofal iechyd.
Goleua fi! :winc:

Problem pleidiau gwleidyddol y dyddiau hyn ydi eu bod nhw rhy barod i droi at farn y mwyafrif er-mwyn ennill pledleisiau. Dydy nhw ddim yn fodlon sefyll fyny am yr hyn ma nhw'n gredu, e.e. Plaid Lafur yn fwy o doriaid na'r toriaid a vice versa efallai. Dwi'n teimlo fod y rhod ar droi...mae mwy o bleidiau llai yn ennill mwy o bledleisiau...y pleidiau sydd yn sefyll am rywbeth o bwys.
[/rant drosodd]

Mae PC yn/wedi dod at groesffordd (digon posibl eu bod wedi pasio'r groesffordd!), y groesffordd o...
i)fodloni'r mwyafrif a mynd am lawer o bledleisiau
neu ii)sefyll dros yr hyn ma nhw'n gredu.
Fel ma pethau'n mynd ar hyn o bryd dewis i) sy'n ennill! :rolio:

Digon posibl fod Wigley a Williams wedi gwneud y sylweddoliad iawn ar y pryd, ond erbyn hyn, ella mae yn ol at ei gwreiddiau y dylai PC fod yn mynd...pwy a wyr?! :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Huw Psych
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1205
Ymunwyd: Iau 13 Hyd 2005 3:05 pm
Lleoliad: Ty'n Twll, Gwlad y Rwla

Postiogan Dili Minllyn » Sul 26 Maw 2006 8:15 pm

Emrys Weil a ddywedodd:Y broblem ymarferol i ideoleg SL yw mai rhamantiaeth oes-aur oedd hi...Nid oeddent yn gallu delio efo realiti diwydiannaeth, na'r proletariat enfawr a grewyd yn sgil hynny.

Dyna ddadansoddiad llawer un ar y Chwith ar SL a'i griw, ond dyw e ddim yn ddandasoddiad hollol deg. Roedd SL a llawer o'i gyd-Bleidwyr cynnar (James Kitchener Davies, er enghraifft) yn ddigon cyfarwydd
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Emrys Weil » Llun 27 Maw 2006 10:36 am

Dili Minllyn a ddywedodd:
Emrys Weil a ddywedodd:Y broblem ymarferol i ideoleg SL yw mai rhamantiaeth oes-aur oedd hi...Nid oeddent yn gallu delio efo realiti diwydiannaeth, na'r proletariat enfawr a grewyd yn sgil hynny.

Dyna ddadansoddiad llawer un ar y Chwith ar SL a'i griw, ond dyw e ddim yn ddandasoddiad hollol deg. Roedd SL a llawer o'i gyd-Bleidwyr cynnar (James Kitchener Davies, er enghraifft) yn ddigon cyfarwydd
Pan gyrhaeddaswn ganol gyrfa'n bywyd,
Mewn coedwig dywell, cefais i fy hunan;
Oherwydd ynddi'r union ffordd gollasid.
Rhithffurf defnyddiwr
Emrys Weil
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 410
Ymunwyd: Gwe 16 Gor 2004 8:02 pm

Postiogan Dili Minllyn » Mer 29 Maw 2006 9:07 am

Emrys Weil a ddywedodd:Hefyd 'roedd Marx yn well economegydd.

Er fod e'n cymryd rhyw fil o dudalennau i esbonio'r hyn y gellid ei egluro ar gefn amlen: wyt ti 'di trio darllen Das Kapital erioed?
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Emrys Weil » Mer 29 Maw 2006 3:51 pm

Dili Minllyn a ddywedodd:
Emrys Weil a ddywedodd:Hefyd 'roedd Marx yn well economegydd.

Er fod e'n cymryd rhyw fil o dudalennau i esbonio'r hyn y gellid ei egluro ar gefn amlen: wyt ti 'di trio darllen Das Kapital erioed?


:)Pan gyrhaeddaswn ganol gyrfa'n bywyd,
Mewn coedwig dywell, cefais i fy hunan;
Oherwydd ynddi'r union ffordd gollasid.
Rhithffurf defnyddiwr
Emrys Weil
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 410
Ymunwyd: Gwe 16 Gor 2004 8:02 pm

Postiogan Tegwared ap Seion » Mer 29 Maw 2006 4:59 pm

alli di roi yr eglurhad-cefn-amlen i ni, Dili?! :)Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Postiogan Tegwared ap Seion » Mer 29 Maw 2006 5:00 pm

Emrys Weil a ddywedodd:Mein Deutsch ist, leide, nicht so fluessig.


Ich auch. Ma'n dod yn
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Postiogan Dili Minllyn » Mer 29 Maw 2006 7:12 pm

Tegwared ap Seion a ddywedodd:alli di roi yr eglurhad-cefn-amlen i ni, Dili?! :)Nid ar hap yr enillwyd eich hawliau.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

NôlNesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Wleidyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 25 gwestai

cron