Aaa, rhamantiaeth oes-aur! [/gwenoglun breuddwydiol]
O'r hyn yr ydw i wedi ei ddeallt, y syniad ydi fod y dosbarthiadau is yn elwa o'r dosbarthiad, y crefftwyr fel petae. Dyna, o bosibl, pam y byddai'r sustem wedi bod o fudd i Gymru yn oes SL lle ar y pryd roedd nifer o grefftwyr a siopau bach lleol yn bodoli.
Mae pobl, yn enwedig ffermwyr, dyddia yma yn flin gan nad ydi pobl leol yn prynu eu cynyrch...ai dosbarthiaeth ydi'r ateb?!
Dwi ddim yn siwr sut na fyddai'r sustem yn rhoi...
Emrys Weil a ddywedodd:...bara ar y bwrdd, addysg i'r plant a gofal iechyd.
Goleua fi!
Problem pleidiau gwleidyddol y dyddiau hyn ydi eu bod nhw rhy barod i droi at farn y mwyafrif er-mwyn ennill pledleisiau. Dydy nhw ddim yn fodlon sefyll fyny am yr hyn ma nhw'n gredu, e.e. Plaid Lafur yn fwy o doriaid na'r toriaid a
vice versa efallai. Dwi'n teimlo fod y rhod ar droi...mae mwy o bleidiau llai yn ennill mwy o bledleisiau...y pleidiau sydd yn sefyll am rywbeth o bwys.
[/rant drosodd]
Mae PC yn/wedi dod at groesffordd (digon posibl eu bod wedi pasio'r groesffordd!), y groesffordd o...
i)fodloni'r mwyafrif a mynd am lawer o bledleisiau
neu ii)sefyll dros yr hyn ma nhw'n gredu.
Fel ma pethau'n mynd ar hyn o bryd dewis i) sy'n ennill!
Digon posibl fod Wigley a Williams wedi gwneud y sylweddoliad iawn ar y pryd, ond erbyn hyn, ella mae yn ol at ei gwreiddiau y dylai PC fod yn mynd...pwy a wyr?!